Cristnogaeth y Gothiaid

Oddi ar Wicipedia

Crefydd llwyth Germanaidd y Gothiaid yn sgil eu tröedigaeth yn Gristnogion oedd Cristnogaeth y Gothiaid. Ymddengys enwau'r Gothiaid ar faes hanesyddiaeth drwy y canrifoedd boreuaf o'r cyfnod Cristnogol. Yr oeddynt yn preswylio ar y cyntaf ar lannau'r Môr Baltig, ond wedi hynny ymfudasant i lannau'r Môr Du. Paganiaeth oedd eu crefydd. Yr oeddynt wedi eu rhannu i ddau ddosbarth, sef, y dosbarth dwyreiniol, neu Ostrogothiaid, a'r dosbarth gorllewinol, neu Fisigothiaid. Yn ystod y 3g, yr oeddynt hwy, ynghyd â llwythau eraill, yn arfer gwneud ymosodiadau dinistriol ar diriogaethau'r Ymerodraeth Rufeinig. Ymhlith y carcharorion a gymerwyd ganddynt yn yr ymosodiadau hyn, yr oedd lliaws o Gristnogion, gan gynnwys offeiriaid. Yn raddol fe lwyddodd yr offeiriaid i ennill parch a hoffter eu cathgludwyr, ac i'w hargyhoeddi o athrawiaethau crefydd y Testament Newydd.

Ymhen amser gofynnwyd am chwaneg o ddysgawdwyr, a thrwy ymdrechiadau'r dynion hynny fe sefydlwyd llawer o eglwysi Cristnogol ymysg y Gothiaid. Dilynwyd llafur y cenhadon â llwyddiant mawr, fel yr ymddengys oddi wrth y ffaith fod Theophilus, esgob y Gothiaid, ymhlith y rhai a arwyddnodasant i benderfyniadau Cyngor Cyntaf Nicaea (325). Ffurf ar Ariaeth oedd y Gristnogaeth a fabwysiadodd y Gothiaid.

Un o ddisgynyddion y carcharorion a fuont yn fodlon i ddwyn Cristnogaeth i sylw'r Gothiaid oedd Wulfila, yr hwn a gyfenwyd "Apostol y Gothiaid". Dywedir ei fod wedi dyfeisio gwyddor i'r Gothiaid, ac oddeutu canol y 4g fe gyfieithodd y Beibl o'r Roeg i'r Gotheg. Yr unig weddillion o'r cyfieithiad hwn sydd yn awr ar gael ydynt y Codex Argenteus, y Codex Carolinus, a'r Ambrosian Manuscripts. Mae'r rhai hyn, yn enwedig y blaenaf, o werth mawr i efrydydd beirniadaeth ysgrythurol. Apwyntiwyd Wulfila i fod yn esgob, a pharhaodd i lenwi'r swydd am amser hirfaith. Bu o wasanaeth amhrisiadwy, yn ystod ei esgobaeth, fel cyfryngwr rhwng y Gothiaid a'r Rhufeiniaid.

Tua diwedd y 4g, fe wnaeth yr enwog Ioan Aurenau, pan yn dal swydd patriarch Caergystennin, ymdrechiadau llafurus o blaid tröedigaeth y Gothiaid. Yn y 5g, yr oedd Cristnogaeth wedi cynyddu yn rhyfeddol yn eu plith, ac yn y cyfnod hwnnw fe ddechreuodd eu clerigrwyr astudio diwinyddiaeth fel gwyddor.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.