Criafolen

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Criafol)
Criafolen
Criafolen Ewropeaidd Sorbus acuparia
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Rosales
Teulu: Rosaceae
Is-deulu: Maloideae
Genws: Sorbus
Is-enws: Sorbus
Rhywogaethau

niferus

Coed a llwyni sy'n perthyn i'r genws Sorbus o'r teulu Rosaceae yw'r criafolennau. Ceir nifer o rywogaethau yng Ngogledd America, Ewrop a gogledd Asia, gyda'r nifer fwyaf o rywogaethau ym mynyddoedd gorllewin Tsieina a'r Himalaya.

Ffrwyth y griafolen.

Maent yn goed cymharol fychan fel rheol, gydag ambell rywogaeth yn llwyn. Mae'r aeron yn nodweddiadol, yn goch neu'n oren yn y rhan fwyaf o rywogaethau. Maent yn fwyd gwerthfawr iawn i adar, sydd a rhan bwysig yng ngwasgaru'r hadau.

Y rhywogaeth fwyaf adnabyddus yw'r Griafolen Ewropeaidd, Sorbus aucuparia, sy'n nodweddiadol o ogledd Ewrop a mynyddoedd de Ewrop; mae'n goeden gyffredin iawn ar ucheldiroedd Cymru. Ceir llawer o gredoau gwerin yn gysyllteidig a'r goeden hon; ystyrid ei bod yn amddiffyniad rhag ysbrydion drwg, a byddai'n aml yn cael ei phlannu gerllaw tai.

Rhywogaethau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]