Crawniad peritonsilaidd

Oddi ar Wicipedia
Crawniad peritonsilaidd
Mathcrawniad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae crawniad peritonsilaidd[1] yn grawniad sy'n datblygu rhwng y tonsilau a wal y gwddf (mae peri yn rhagddodiad Groeg sy'n golygu o amgylch)[2].

Enwau Cymraeg eraill[golygu | golygu cod]

Mae nifer o enwau Cymraeg traddodiadol ar y cyflwr gan gynnwys

  • Yr ysbinagl
  • Y sbineg
  • Y fynyglog
  • Y cwinsi
  • Y cwins
  • Yr hychgrug
  • Y dwymyn doben

Mae nifer o'r enwau hyn yn cael eu defnyddio ar gyfer clwy'r pennau (y mymps) hefyd[3]. Mae gan y ddau afiechyd symptomau tebyg weithiau (poen a chwyddo yn y gwddf) ond nid ydynt yn perthyn.

Symptomau[golygu | golygu cod]

Mae'r symptomau'n cynnwys twymyn, poen yn y gwddf, trafferth i agor y geg, a newid i'r llais. Fel arfer mae poen yn waeth ar un ochr. Gall cymhlethdodau gynnwys rhwystro'r llwybr anadlu a niwmonitis sugniad (pan fydd y pws yn cael ei sugno i'r ysgyfaint gan achosi haint yno).

Mae crawniad peritonsilaidd yn cael ei achosi gan amlaf trwy haint o nifer o fathau o facteria. Yn aml mae'n dilyn pharyngitis streptococol. Nid ydyw, fel arfer yn digwydd yn y rhai hynny sydd wedi cael tynnu eu tonsilau.

Triniaeth[golygu | golygu cod]

Y driniaeth yw cael gwared â'r pws trwy ddefnyddio gwrthfiotigau, yfed digonedd o hylif a meddyginiaeth ar gyfer y poen. Gall steroidau hefyd bod yn ddefnyddiol. Yn gyffredinol nid oes angen mynediad i'r ysbyty. Mae oedolion ifanc yn fwy tebygol o gael eu heffeithio fel arfer[4].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!