Crater folcanig

Oddi ar Wicipedia
Crater folcanig
Mathcrater, tirffurf folcanig Edit this on Wikidata
Rhan ollosgfynydd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Pant crwn ar frig llosgfynydd yw crater folcanig.[1] Fel arfer mae ganddo siâp powlen sy'n cynnwys un neu fwy o agorfeydd. Yn ystod ffrwydradau folcanig, mae nwyon a magma tawdd yn codi o siambr magma tanddaearol, trwy sianeli yn y creigiau, nes iddynt gyrraedd yr agorfa yn y crater, lle mae'r nwyon yn dianc i'r atmosffer ac mae'r magma yn ffrwydro fel lafa. Gall crater folcanig ymestyn dros ardal eang, a gall o ddyfnder mawr.

Ar ôl rhai ffrwydradau, gall siambr magma llosgfynydd wagio digon fel bod y ddaear uwchben yn dymchwel, gan ffurfio math mwy o bant, sef callor (caldera). Efallai y bydd y pant yn y pen draw yn llenwi â dŵr i ffurfio llyn crater.

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Volcanic Craters" (yn Saesneg). US National Park Service. Cyrchwyd 30 Mehefin 2023.
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaeareg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato