Cors Crymlyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cors Crymlyn
Crymlyn Bog - geograph.org.uk - 561327.jpg
Math Cors Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.6364°N 3.8883°W Edit this on Wikidata

Gwarchodfa Natur Genedlaethol gerllaw dinas Abertawe yw Cors Crymlyn (cyfeirir ati yn Saesneg fel Crymlyn Bog). Hi yw'r esiampl fwyaf yng Nghymru o gors alcalin ar yr iseldir neu ffen.

Saif y gors i'r dwyrain o ganol Abertawe, mewn ardal oedd unwaith yn aber afon Clydach ac afon Nedd. Ar un adeg roedd purfa olew ar ran o'r safle, ac mae hen gamlas Glan-y-wern yn arwain trwy'r warchodfa. Heblaw'r gors ei hun, ceir amrywiaeth o gynefinoedd a rhai planhigion sy'n brin ym Mhrydain, yn cynnwys Plu'r Gweunydd Eiddil, Rhedynen Wyfrdwy, Gwlithlys, Llymfrwynen a Swigenddail Lleiaf. Ceir amrywiaeth o adar yno hefyd, yn cynnwys Rhegen y Dŵr ac Aderyn y Bwn.

Cors Crymlyn (yn y pellter).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]