Corn Celtaidd
Y Corn Celtaidd yn cael ei chwythu ar ddechrau gêm bêl-droed yng Nghaerdydd; Tachwedd 2024 | |
Math | Offeryn Celtaidd |
---|---|
Deunydd | efydd ![]() |
Dechreuwyd | 200 CC ![]() |
Daeth i ben | 200 ![]() |
![]() |

Chwythbren hynafol a ddefnyddiwyd gan y Celtiaid yn ystod Oes yr Haearn rhwng tua 200 BC a AD 200 oedd y corn Celtaidd, neu'r catgorn (Saesneg: carnyx, ynganiad:ˈkɑːrnɪks). Math o drymped a wnaed gydag efydd ydoedd, gyda siâp S hirgul. Yr oedd ganddo ben siâp baedd cegrwth neu anifail arall. Mae'r gair 'carynx' yn enw Groeg sydd hefyd yn deillio efallai o’r iaith Galateg sef iaith Geltaidd Anatolia.[1]
Hanes ac archaeoleg
[golygu | golygu cod]Symbolaeth
[golygu | golygu cod]Yn ynysoedd Prydain yn yr Oes Haearn, roedd symbolaeth anifeiliaid yn fodd o gyfleu naws ymosodol a ffyrnig, gydag enghreifftiau'n cynnwys baedd gwyllt ar darian Witham, corn Deasgard, yr Alban o faedd a phâr o gleddyfau gyda dreigiau arnynt o afon Tafwys.[2]

Defnydd
[golygu | golygu cod]Mae tystiolaeth i awgrymu y byddai'r Corn yn cael ei ddal gan bennaeth, fel y dangosir gan ffigwr Bituitos a oedd o bosib yn Frenin Galaidd.[3]
Archaeoleg
[golygu | golygu cod]Roedd darnau arian a fathwyd gan y Rhufeiniaid yn dangos trympedi rhyfel y Celtiaid. Mae'r trympedi Celtaidd hyn yn annhebyg i utgyrn Rhufeinig, gan fod ganddynt "bennau angenfilod".[4]
Roedd y Corn Celtaidd neu Alaidd yn cael ei ddefnyddio gan y Celtiaid mewn ffordd debyg i'r ffordd roedd y Rhufeiniaid yn defnyddio baneri a bu enghreifftiau o'r Cyrn yn Rhufain mewn cofiant o frwydrau yn erbyn y Galiaid. Ceir enghraifft o gorn â phen y Ddraig ar waelod Colofn (Rhufeinig) Trajan.[5]
Disgrifiwyd y Corn gan rai'r un fath â thrymped Dacia. Mae tebygrwydd amlwg rhwng corn Celtaidd y Galiaid a baner draig Dacia La Tène a gemwaith gyda dreigiau a seirff.[6]

Mae dynes sy'n dal corn Celtaidd hefyd yn ymddangos ar fronblat yr ymerawdwr Awgwstws.[7]
Darganfuwyd corn Celtaidd efydd gyda phen baedd yn dyddio o'r Oes Haearn yn Suffolk, Lloegr yn 2021.[8]
Defnydd cyfoes
[golygu | golygu cod]Gwneuthurwyr
[golygu | golygu cod]Yn naturiol, bychan yw'r nifer y pobl sy'n cynhyrchu Corn Celtaidd yn gyfredol. Un ohonynt yw John Kenny, cerddor o'r Alban. Ceir eitem deledu amdano o Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant yn 2022. Mae'r offeryn ganddo wedi ei ail-greu o engrafiadau. Mae'n diwb hir sy'n gorffen gyda phen baedd.[9]
Tîm Pêl-droed Cymru
[golygu | golygu cod]Yn gêm bêl-droed Cymru yn erbyn Gwlad yr Iâ ar 19 Tachwedd 2024, canwyd y Corn Celtaidd fel rhan o seremoni cychwyn y gêm.[10][1]
Crewyd y carnyx gan grefftwr yng Ngwlad Belg am swm o oddeutu £3,000 a arianwyd maes o'u gwirfodd gan chwaraewyr y tîm cenedlaethol. Roedd wedi gwneud o efydd ac yn 3.6 metr o uchder. Fersiwn o'r carynx a ddarganfuwyd yng ngogledd-ddwyrain Yr Alban, sef y 'carynx Deasgard' (Deskford carnyx), a ddefnyddiwyd yn y gêm bêl-droed.[1] Canwyd y corn gan Gas Man, aelod o fand prês y Barry Horns sy'n canu caneuon yn ystod gemau Cymru. Esboniodd bod "y perfformiad yn dipyn o gymysgfa o rai o anthemau gwladgarol cryfaf Cymru ... rythmau bach o Yma o Hyd yn ogystal ag ychydig o gorws anthem genedlaethol Cymru.” Nododd hefyd mor anodd oedd chwarae offeryn pres yn y tywydd oer y noson honno.[11]
Daeth y syniad am ganu'r offeryn ar ddechrau'r gêm gan y band pres y Barry Hornes sy'n chwarae caneuon poblogaidd yn ystod gemau Cymru. Cafwyd hefyd galwadau am y corn gan gefnogwyr cyffredin i'r perwyl hyn yn 2023. Ymddengys i'r Cymry cael eu hysbrydoli gan berfformiad o'r Corn Celtaidd yng Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant yn Llydaw yn 2023.[12]
Dolenni
[golygu | golygu cod]- The Sound of the Carnyx Fideo ar sianel Youtube y gwneuthurwr, Samuel Meric (2022)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Y carnyx yn creu naws cyn gêm ac ar faes y gad". BBC Cymru Fyw. 20 Tachwedd 2024.
- ↑ Garrow, Duncan (2008-10-01). Rethinking Celtic Art (yn Saesneg). Oxbow Books. t. 65. ISBN 978-1-84217-318-3.
- ↑ Megaw, J. V. S. (1970). Art of the European Iron Age: A Study of the Elusive Image (yn Saesneg). Adams & Dart. t. 177. ISBN 978-0-239-00019-4.
- ↑ The Numismatic Chronicle, and Journal of the Numismatic Society (yn Saesneg). Tayor & Walton. 1865. t. 11.
- ↑ Kinnee, Lauren (2018-03-12). The Greek and Roman Trophy: From Battlefield Marker to Icon of Power (yn Saesneg). Routledge. ISBN 978-1-351-84657-8.
- ↑ Pârvan, Vasile (1928). Dacia: An Outline of the Early Civilizations of the Carpatho-Danubian Countries (yn Saesneg). CUP Archive.
- ↑ Penner, Todd C.; Stichele, Caroline Vander (2007). Mapping Gender in Ancient Religious Discourses (yn Saesneg). BRILL. ISBN 978-90-04-15447-6.
- ↑ "Rare Bardwell Iron Age trumpet sells for more than £4k". BBC News (yn Saesneg). 2021-12-03. Cyrchwyd 2023-02-07.
- ↑ "Le carnyx, un instrument de musique ancien présenté au festival interceltique" (yn Ffrangeg). INA.fr. 9 Awst 2002.
- ↑ "Watch: The incredible anthem and Carnyx at Wales match". Nation.Cymru. 19 Tachwedd 2024.
- ↑ "Why a huge horn was played before Wales v Iceland". BBC Wales online. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2024.
- ↑ "Terrifying Carnyx to be Sounded at Wales Clash with Iceland". Nation.Cymru. 18 Tachwedd 2024.