Wicipedia:Cofrestru/Cofrestru2

Oddi ar Wicipedia
   Hafan        Sgwrs        Cofrestru2        Ieithoedd        Prosiectau      
Cofrestru
   

Mae'r dudalen hon yn rhestru'r hawliau sydd gan ddefnyddwyr cofrestredig. Mae yna restr o fanteision ychwanegol hefyd: gweler isod.

Hawliau defnyddwyr[golygu cod]

  • Y gallu i gychwyn tudalennau newydd.
  • Y gallu i ail-enwi tudalennau.
  • Y gallu i uwchlwytho lluniau.

Manteision agor cyfrif[golygu cod]

Dyma'r manteision technegol:

  • Gallwch arddel enw defnyddiwr o'ch dewis (os yn addas!)
  • Gallwch weld eich holl gyfraniadau trwy glicio ar y cysylltiad 'fy nghyfraniadau'.
  • Tudalen defnyddiwr er mwyn cyflwyno eich hunan i'r byd.
  • Tudalen sgwrs er mwyn i eraill anfon negeseuon atoch.
  • Rhestr gwylio er mwyn i chi gadw golwg ar dudalennau sy'n eich diddori.
  • Y gallu i newid ymddangosiad y safle trwy osod eich dewisiadau.
  • Ni fydd eich cyfeiriad IP bellach yn weladwy i bawb.

Ond yn ogystal â nhw, mae'n haws cael eich adnabod gyda chyfrif. Heb gyfrif, defnyddir eich cyfeiriad IP, sy'n cynnwys olyniaeth o rifau, er mwyn adnabod eich cyfraniadau. Ond mai rhifau yn anoddach i bobl eu cofio nac enw defnyddiwr. Does dim rhaid i'ch enw defnyddiwr fod yn eich enw gwir, ond gydag enw adnabyddadwy mae'n haws i chi ddod yn rhan o'n cymuned, cael ychydig o gydnabyddiaeth am eich gwaith yma, cyfranogi mewn sgyrsiau a.y.y.b.

Cofrestrwch nawr!