Cofiant a phregethau y diweddar Barch David Charles Davies

Oddi ar Wicipedia
David Charles Davies ym 1864

Mae Cofiant a phregethau y diweddar Barch. David Charles Davies, gan E. Wynne Parry yn gofiant a gyhoeddwyd gan Argraffwasg Hughes a'i Fab, Wrecsam ym 1896.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae'r gyfrol yn adrodd hanes David Charles Davies (11 Mai 1826 - 26 Medi 1891), Gwleidydd, diwinydd, pennaeth coleg a gweinidog [2][3]

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Mae'r cofiant yn rhoi hanes magwraeth ac ieuenctid Davies yn Aberystwyth a'i addysg fel un o ddisgyblion cyntaf Coleg y Bala a'i addysg yn Hanley, Llundain a Phrifysgol Caeredin. Ceir hanes ei fywyd fel gweinidog yn y Drenewydd, Llanfair-ym-muallt, Lerpwl a Chapel Jewin, Llundain. Mae penodau olaf y llyfr yn ymwneud â chyfnod Davies fel athro a phrifathro Coleg Trefeca, ei ymddeoliad i Fangor a'i farwolaeth yno. Wedi diwedd y cofiant ceir copïau o ugain o'i bregethau. Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[4]

Penodau[golygu | golygu cod]

Mae'r gyfrol yn gynnwys y penodau canlynol:

  1. Bore oes
  2. Dan addysg yn Hanley, Llundain, Edinburgh
  3. Blynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth 1848-1859
  4. Llundain
  5. Bangor a Threfeca
  6. Fel pregethwr a darlithydd
  7. Atodiad

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Parry, E. Wynne (1896). Cofiant a phregethau y diweddar Barch. David Charles Davies. Wrecsam: Hughes a'i Fab.
  2. David Charles Davies - Y Bywgraffiadur Cymreig adalwyd 27 Tachwedd 2019
  3. David Charles Davies - Bywgraffiadur Rhydychen adalwyd 27 Tachwedd 2019
  4. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-11-27.