Cofadail Scott

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Edinburgh01LB.jpg
Edinburgh02LB.jpg

Mae Cofadail Scot yn gofadail i Syr Walter Scott ar Stryd y Tywysogion yng Nghaeredin, yr Alban. Mae 287 o risiau yn arwain at blatfform gwylio ar ben y gofadail.[1]

Dechreuodd y gwaith adeiladu ar 15 Awst 1840, a chwblhawyd y gwaith ym 1844. Mae’n 200 troedfedd o uchder, ac wedi ei wneud o dywodfaen Binny o Orllewin Lothian, a costiodd £16,154. Mae’n cynnwys cerflun o Scott wedi'i gerfio o farmor Carrara, o’r Eidal. Mae 64 o gerfluniau eraill ar y gofadail, y mwyafrif ohonynt yn gymeriadau o nofelau Scott.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]