Codi / \ Cysgu (albwm)

Oddi ar Wicipedia
Codi / \ Cysgu
Clawr Codi / \ Cysgu
Albwm stiwdio gan Yws Gwynedd
Rhyddhawyd Mehefin 2014
Label Recordiau Côsh
Cronoleg Yws Gwynedd
Codi /\ Cysgu
(2014)
Anrheoli
(2017)

Albwm cyntaf y canwr Cymraeg Yws Gwynedd yw Codi /\ Cysgu. Rhyddhawyd yr albwm ym Mehefin 2014 ar y label Recordiau Cosh.

Chwe mlynedd ers i Ywain Gwynedd ryddhau yr albwm Creaduriaid Nosol gyda'i grŵp Frizbee, ymddangosodd gyda Sesiwn C2 ac yna'i albwm unigol cyntaf ym mis Mehefin.

Dewiswyd Codi /\ Cysgu yn albwm gorau Gwobrau'r Selar 2014 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Cipiodd 'Neb ar Ôl' wobr Y Selar am y Gân Orau 2014[2].

Canmoliaeth[golygu | golygu cod]

Mae un o gyfansoddwyr pop-roc Cymraeg gorau'r ddegawd ddiwethaf yn ei ôl a 'dw i wrth fy modd. Yn union fel ei gynulleidfa, mae Yws Frizbee wedi tyfu fyny

—Lois Gwenllian, Y Selar

Traciau[golygu | golygu cod]

  1. Sodla- 2:12
  2. Codi / \ Cysgu - 3:21
  3. Mae 'na Le - 3:02
  4. Gola Ola'r Dydd - 3:10
  5. O Gwennan = 3:31
  6. Drwgfyw -3:23
  7. Dal Fi'n Ôl - 3:35
  8. Neb ar Ôl - 3:35
  9. Sebona Fi - 3:33
  10. Cân Creulon - 3:17

(Holl ganeuon gan Yws Gwynedd)[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 10 Uchaf Albyms Gorau 2014 - Y Selar, Mawrth 2015
  2. Gwobrau'r Selar 2014 - Y Selar, Mawrth 2015
  3. "Codi / \ Cysgu" – drwy Amazon.[dolen marw]