Cnwp-fwsogl y gors
Gwedd
| Lycopodiella inundata | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Euasterids I |
| Urdd: | Lycopodiopsida |
| Teulu: | Lycopodiaceae |
| Genws: | Lycopodiella |
| Rhywogaeth: | L. barbarum |
| Enw deuenwol | |
| Lycopodiella inundata Carl Linnaeus | |
| Cyfystyron | |
| |
Planhigyn fasgwlaidd a math o fwsog cyntefig yw Cnwp-fwsogl y gors sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Lycopodiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Lycopodiella inundata a'r enw Saesneg yw Marsh clubmoss.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Cnwpfwsogl y Gors.
Tir asidig, tywodlyd yw eu cynefin, fel arfer, yn enwedig tir uchel, gwlyb.
Rheolath a chadwraeth
[golygu | golygu cod]Mae'r rhywogaeth wedi prinhau 85% yn Lloegr dros yr 85 mlyned a aeth heibio. Gwnaethpwyd arbrawf ar safle ger Bournemouth i'w hybu trwy ei sathru ag olwynion tractor i ddinoethi'r tir o'i gwmpas a fyddai, yn ôl y gobaith, yn rhoi mwy o chwarae teg iddo. Bu'r arbrawf yn llwyddiant ac fe gynyddodd y boblogaeth o 3,000 i 12,000 o 'blanhigion'.[2]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Bywiadur[dolen farw] Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
- ↑ Ben Webster, The Times 2 Chwefror 2019
