Cnwp-fwsogl corn carw
Lycopodium clavatum | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Urdd: | Lycopodiales |
Teulu: | Lycopodiaceae |
Genws: | Lycopodium |
Rhywogaeth: | L. chinense |
Enw deuenwol | |
Lycopodium clavatum Philip Miller | |
Cyfystyron | |
|
Planhigyn fasgwlaidd a math o fwsog cyntefig yw Cnwp-fwsogl corn carw sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Lycopodiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Lycopodium clavatum a'r enw Saesneg yw Stag`s-horn clubmoss.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Cnwpfwsogl Corn Carw, Cnwbfwsogl Corn Carw, Cnwpfwsogl Corn Hydd, Corn Carw'r Mynydd, Palf y Blaidd.
Tir asidig, tywodlyd yw eu cynefin, fel arfer, yn enwedig tir uchel, gwlyb.
Perthynas â dyn
[golygu | golygu cod]Bu cysylltiad annisgwyl rhwng cnwpfwsoglau a showbiz. Defnyddiwyd powdwr wedi ei wneud o sborau'r cnwpfwsogl cyffredin, a adwaenid yn syml fel lycopodium, mewn cyflwyniadau theatrig Fictorianaidd er mwyn creu effeithiau fflammau. Llosgwyd cwmwl o sborau wedi ei chwythu yn gyflym ac yn ddisglair, ond heb fawr o wres. Fe'i hystyrwyd yn ddiogel yn ôl safonau'r cyfnod. Sut yn y byd cafodd neb y syniad gwreiddiol o ddefnyddio'r fath ddull at y diben hwn?[2][1]
Llên gwerin
[golygu | golygu cod]- Arwydd o ffrwythlondeb
"Un o'i hoff bynciau [fy ewythr Glyn Davies, Cwm Dulas, Llanddewi Brefi] oedd dangos i'r genhedlaeth iau na wyddent am rai o'r planhigion oedd yn adnabyddus i bobl y mynydd. Y drindod a gelai eu henwi bob tro oedd: y penllwydyn (neu Plu'r Gweunydd, Eriophorum; y sidan bengoch (Polytrichum commune — .... fe'i gweid yn dorch gref pan fod angen gan y bugeiliaid [i wneud carchar defaid ohono]); a'r corn carw. Mi fûm am flynyddoedd yn methu cael crap ar y diwetha "planhigyn gwydyn a hwnnw'n dirwn", fel dywedai fy ewythr, and rwyf wedi cael ar ddeall erbyn hyn mai Stag's horn clubmoss (Lycopodium clavatum) ydoedd. Yr hyn oedd yn ddiddorol oedd fod y bois ifainc 'slawer dydd yn gwisgo darnau ohono. Oes unrhyw un wedi clywed am yr arfer mewn ardaloedd eraill, ac a all unrhyw un gynnig esboniad? Tybed ai hen hen arwydd o ffrwythlondeb ydyw llysieuyn sy'n las trwy'r Gaeaf fel y celyn a'r uchelwydd?"[3]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
- ↑ Wikipedia
- ↑ Gwyn Jones, yn Fferm a Thyddyn 8, Calan Gaeaf 1991, tud. 15