Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg
Llun wynebddalen | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Owen Morgan Edwards |
Gwlad | Cymru |
Dyddiad cyhoeddi | 1906 |
Tudalennau | 112 |
Genre | hunangofiant |
Mae "Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg" yn llyfr gan Owen Morgan Edwards. [1] Cyhoeddwyd y llyfr ym 1906, gan Gwmni Y Cyhoeddwyr Cymraeg (Cyf) yn Wasg Swyddfa Cymru, Caernarfon. Mae'r llyfr wedi ei ddarlunio gan Samuel Maurice Jones. [2]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Mae'r gyfrol wedi ei selio'n fras ar hanes O. M. Edwards [3] o'i fabandod hyd ddiwedd ei gyfnod fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Un o'r pethau mae O M Edwards yn cael ei gofio amdano'n bennaf yw ei ymgyrch dros ddefnyddio'r Gymraeg yn ysgolion Cymru ac i gael gwared â defnydd o'r Welsh Not. Yng Nghlych Adgof mae Edwards yn adrodd ei brofiad fel bachgen ysgol o fod dan ddisgyblaeth y Welsh Not
Cynnwys
[golygu | golygu cod]Ar ôl rhagymadrodd gan yr awdur sy'n egluro pam ei fod wedi ysgrifennu'r llyfr daw'r penodau canlynol.
- YSGOL Y Llan.
- I. Cartref, a chymdeithion cyntaf. Yr Ysgol Sul; y llythrennau; profedigaeth. Paham na anfonwch y bachgen i'r ysgol? Ysgol y Llan; yr athrawes; dysgu i mi fihafio; tocyn am fy ngwddf: cashau gwybodaeth.
- II. Cam y diniwed; ysbryd Chwyldroad.
- III. Dihoeni; crwydro ar oriau'r ysgol; twymyn; hedd y mynyddoedd; yr athraw newydd; adfyfyrion
- Hen Fethodist.
Hen gloc du hir fy nghartref; ei fuchedd, ei daith wyllt. Ardal heddychlon a theulu mwyn ; hen lety proffwydi. Pregethwyr y Deheudir, — Thomas Richards Abergwaun, Thomas John Cilgeran, Ebenezer Richards Tŵr Gwyn. John Evans New Inn yn stopio'r cloc. Sefyll, a mynd o chwith. - Llyfr y Seiat.
Lle'r seiat yn hanes Cymru. Un seiat, a'i chofnodydd. 1739-1791, cyfnod yr efengylwyr. Howel Harris a Daniel Rowland. 1791-1804, cyfnod y crwydro, yr emynau’n gweddnewid. Trallodion y pregethwr Ifan Ffowc a'r gweddïwr Niclas Wmffre. 1804-1872, cyfnod yr hen gapel. Y blaenoriaid, yr athrawon. Yr Hen Barch. Y pregethwyr. Cyngor yr hen ymladdwr. Llais y werin. Rhoi'r tariannau i lawr. - Fy Nhad.
Noson marw fy nhad. Bywyd dedwydd. Plant direidus. Cyfarfod Ebenezer Morris. Yr hedd a'r dymestl. - Y Bala.
Lle tawel a phur. Y ffyrdd ato. Green y Bala a'r hen sasiynau. Y Stryd Fawr. Michael D. Jones. Dr. Hughes. Cofgolofn Charles. Llyn Tegid. "Cloch y Bala." Llanecil. Bodiwan. Ffarwel. - Aberystwyth.
Culni cred. Rhodfa'r .Alòr. Tralia'r Deheuwr. Crwth y Sosin. Silvan Evans a'r Dosparth Cymraeg-. Athrawon campus. - Rhydychen.
Uchelgais eithafol a balchder, — meddwl am "basio'r Fach. Rhydychen, Coleg Balliol, bechgyn, a brain. Jowett. Brecwest, a dŵr oer beirniadaeth. "He found the young ass, and sat upon him." Brad y Fach. Bendith bywyd cof gwan. - Dyrniad o Beiswyn.
Dadblygu a disgyblu. Cydymdeimlo a dirmygu. Ysmalio, — y da a'r drwg. Y cospwr a'r dysgwr. Urddas ac ymddiheurad. Gofal am yr olaf.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
- Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg ar Wicidestun
- Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg ar Internet Archive
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ EDWARDS, Syr OWEN MORGAN (1858 - 1920), llenor. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 21 Awst 2021
- ↑ JONES, SAMUEL MAURICE (1853 - 1932), arlunydd. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 21 Awst 2021,
- ↑ WorldCat Adferwyd 21 Awst 2021,