Clustog Fair
| Armeria maritima | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau craidd |
| Urdd: | Caryophyllales |
| Teulu: | Plumbaginaceae |
| Genws: | Armeria |
| Rhywogaeth: | A. maritima |
| Enw deuenwol | |
| Armeria maritima Philip Miller | |
Planhigyn blodeuol lluosflwydd a llysieuol yw Clustog Fair sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Plumbaginaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Armeria maritima a'r enw Saesneg yw Thrift.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Archmain, Blodyn y Morwr, Cenrin Arfor, Clustog Mair (mae'n gywir i ddweud "clustog Fair" neu "clustog Mair" gan mai perthynas perthynol ac nid ansoddeiriol sydd rhwng y ddau air - mae treigliad meddal ar ôl enw benywaidd yn ddewisol dan yr amgylchiadau yna, er enghraifft: ffair lyfrau a dinas dysg)
Mae i'w chanfod mewn gwahanol hinsawdd: o'r arctig i ardaloedd trofannaol ond fe'i cysylltir yn bennaf gyda thir hallt (fel y 'Steppes'), rhostiroedd ac arfordiroedd.
Symboliaeth
[golygu | golygu cod]
Aeth yr hen "bishyn tair" allan o ddefnydd gyda degoli'r arian ar y 15 Chwefror 1971. Ymddangosai ddelwedd o glustog Fair arno yn gyson. Tybir mai chwarae ar ddau ystyr y gair thrift sydd yma.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Bywiadur[dolen farw] Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
