Cludiant aeolaidd

Oddi ar Wicipedia
Haboob (neu storm o lwch anferthol) ar fin llyncu gwersyll milwrol yn Al Asad yn Irac; Ebrill 2005.
Ffurf annarferol carreg, yr Árbol de Piedra ("y goeden garreg"), a gerfiwyd gan wyntoedd llawn tywod ym Mharc Cenedlaethol Eduardo Avaroa Andean, Bolifia: 7 metr o uchder.

Cludiant gronynnau gan wynt yw cludiant aeolaidd. Daw’r term o Aeolus sef Duw Groegaidd y Gwynt. Ar ôl i’r gwaddod gael ei lusgo i’r llif awyr, bydd modd iddo gael ei gludo drwy gyfrwng un o bedwar dull sef crogiant, neidiant, ymgripiad ac ymlusgiant a’r hyn sy’n penderfynu hyn yn bennaf yw maint y gronyn. Nid yw’r dulliau cludo yn ddosbarthiadau ar wahân ac nid yw’r trawsnewid o un i’r llall yn amlwg iawn.

Y ddau brif ddull ar gyfer cludiant aeolaidd yw crogiant a neidiant. Trwy grogiant mae’r gronynnau llwch lleiaf yn cael eu cadw yn yr awyr. Mae crogiant yn digwydd pan fydd deunyddiau arwyneb yn cael eu codi i’r awyr a bydd y ceryntau esgynnol yn ddigon cryf i ddal pwysau’r gronynnau a’u cadw i fyny am gyfnod amhenodol. Bydd cyflymder gwynt arferol sy’n agos i arwyneb y Ddaear yn crogiannu gronynnau gyda diamedrau llai na 0.2 mm. Bydd stormydd gwynt difrifol yn medru dal gronynnau mawr mewn trolifau tyrfol am amser hir a’u gwthio i uchderau mawr (miloedd o fetrau), sy’n ymestyn eu pellter teithio (miloedd o gilometrau yng nghyfeiriad y gwynt).

Mae neidiant yn digwydd drwy symudiad gronynnau oddi wrth yr arwyneb gan godiadau aerodynameg sydd wedyn, drwy’r llif awyr, yn cael momentwm llorweddol ac yna’n disgyn i wrthdaro'r gwely gronynnau ac yna’n parhau i ‘neidio’ yng nghyfeiriad y gwynt. Mae hyn yn digwydd o fewn rhai metrau i’r arwyneb ac amcangyfrir bod 90% o dywod yn cael eu cludo o fewn 50 cm uwchben yr arwyneb a 35% o fewn 2.5 cm o’r arwyneb. Mae neidiant yn cludo gronynnau rhwng 0.06 mm a 0.5 mm mewn diamedr. Pan mae ychydig o ronynnau neidiant yn gwrthdaro gronynnau eraill mae hyn yn arwain at dasgu’r gronynnau eraill i’r llif awyr sy’n achosi iddynt neidio sy’n gallu arwain at fàs-symudiad o waddod. Gwelir hyn fel system rhaeadru lle mae symudiad nifer bychan o ronynnau ym medru achosi màs-symudiad enfawr o waddod yn gyflym. O bell, bydd cwmwl o ronynnau neidiedig yn ymddangos fel petaent ynghrog yn barhaus, gan greu haen niwlog yn agos i’r arwyneb.

Pan fydd gronynnau neidiant yn gwrthdaro yn erbyn gronynnau sy’n rhy drwm i hercian, maent yn gwthio gronynnau (hyd at chwe gwaith yn fwy na’r gronynnau neidiant) ychydig ac yn araf ymlaen, ac mae’r symudiad hwn o lithro a rholio ymlaen yn cael ei adnabod fel ymgripiad. Fel arfer mae’n gofyn bod cyflymdra gwynt yn fwy na 16 km/a (10 m.y.a.) i ymgripiad ddigwydd.

Gall llystyfiant ddylanwadu ar brosesau a thirffurfiau aeolaidd drwy amharu ar ddulliau cludiant megis neidiant, a bydd hynny’n peri mwy o erydu rhwng llystyfiant a dyddodiad wrth ymyl llystyfiant. Mae prosesau aeolaidd yn cychwyn pan fydd erydoldeb y gwynt yn fwy na natur erydadwy yr arwyneb. Mae llystyfiant yn medru dylanwadu ar ddulliau cludiant aeolaidd drwy gyfrwng tri phrif ddull sef: yn gyntaf, drwy roi lloches rhag erydiad i’r arwyneb yn union o dan y llystyfiant; yn ail, drwy gynyddu garwedd a ffrithiant yr arwyneb sy’n tynnu momentwm oddi ar y gwynt ac felly ei bŵer erydu; ac, yn drydydd, drwy ddal gwaddod gan ymddwyn fel rhwystr i ronynnau mudol sydd yna’n gweithredu fel man i ddyddodi gwaddod.

Mae cludiant a thirffurfiau aeolaidd yn dibynnu’n fawr ar y system afonydd i gyflenwi gwaddod. Mae’r system afonydd yn erydu’r pridd a’r creigiau sy’n cyflenwi’r gwaddod sy’n cael ei gludo gan gludiant aeolaidd. Bydd y gwaddod a gludir gan gludiant aeolaidd yn gallu cael ei ail-ddosbarthu dros y llethrau a sianelau’r afonydd a fydd yn eu tro yn cael eu cludo gan brosesau afonol. Felly, mae cylchrediad o gludiant ac erydiad yn digwydd. Mae’r gwaddod sy’n mynd i sianelau afonydd o ganlyniad i gludiant aeolaidd ym medru newid arddull afon o un ystumiol i un blethog.

Mae cludiant aeolaidd yn broses bwysig ar gyfer erydu pridd, ffurfio twyni a newid ac ail-ddyddodi gronynnau pridd. Loess yw’r enw a roddir ar y dyddodion mawr o bridd a gludir gan wynt ac fe’i gwelir ledled y byd. Mae’r rhan fwyaf o’r pridd hwn yn tarddu o falurion a adawyd ar ôl yr oes iâ ddiwethaf. Mae’r dyddodion mwyaf trwchus i’w gweld ar Lwyfandir Loess yn Tsieina lle maent yn 335 metr o drwch. Gwelir loess hefyd yn Nwyrain Ewrop (Ŵcrain a Moldova) ac Unol Daleithiau America (yr Iseldir Canolog a’r Gwastadedd Mawr) lle mae’r croniadau mwyaf rhwng 20 a 30 metr o drwch.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Bullard, J. E., Livingstone, I. (2002) Interactions between aeolian and fluvial systems in drylands environments. Area, 34 (1), 8–16.
  • Bullard, J. E. (1997) Vegetation and dryland geomorphology. Yn Arid Zone Geomorphology: Process, Form, and Change in Drylands, 2nd Edition, Thomas, D. S. G (gol.). John Wiley & Sons, Chichester.
  • Bullard, J. E., McTainsh, G. H. (2003) Aeolian-fluvial interactions in dryland environments: examples, concepts and Australia case study. Progress in Physical Geography, 27 (4), 471–501.
  • Heathcote, R. L. (1983) The arid lands: their use and abuse. Longman, Llundain.
  • Heidorn, K. C. (2002) Weather Elements: Aeolian Transport. Cyrchwyd: 01/12/2010.
  • Moffit, I. (1976) The Australian Outback, the World’s Wild places/Time-Life books. Time-Life Books B. V, Amsterdam.
  • Nickling, W. G. (1988) The initiation of particle movement by wind. Sedimentology, 35 (3), 499–511.
  • Okin, G. S., Gillette, D. A., Herrick, J. E. (2006) Multi-scale controls on and consequences of aeolian processes in landscape change in arid and semi-arid environments. Journal of Arid Environments, 65 (2), 253–275.
  • Wiggs, G. F. S. (1997) Sediment mobilisation by the wind. Yn Arid Zone Geomorphology: Process, Form, and Change in Drylands, 2nd Edition, Thomas, D. S. G (gol.). John Wiley & Sons, Chichester.
  • Zhang, Qian-Hua., Miao, Tian-De. (2003) Aeolian sand ripples around plants. Physical Review E, 67, 051304-1 - 051304-3.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Cludiant Aeolaidd ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.