Clefyd firaol Ebola

Oddi ar Wicipedia
Clefyd firaol Ebola
Enghraifft o'r canlynolclefyd heintus, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathviral hemorrhagic fever, Filoviridae infectious disease, clefyd heintus firol, hospital-acquired infection, clefyd Edit this on Wikidata
AchosOrthoebolavirus zairense edit this on wikidata
Dyddiad darganfod26 Awst 1976 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae clefyd firaol Ebola (EVD), a elwir hefyd yn dwymyn hemorrhagig Ebola (EHF) neu Ebola ar ei ben ei hun, yn dwymyn hemorrhagig firaol a achosir gan 'ebolaviruses'. Mae arwyddion a symptomau fel arfer yn dod i'r golwg rhwng dau ddiwrnod a thair wythnos wedi i'r firws gael ei ddal, gan gynnwys twymyn, poen ynghylch y gwddf, poenau cyhyrol a chur pen. Yna ymddangosir ail gyfres o symptomau sef chwydu, rhyddni a brech ynghyd â gostyngiad yn weithredoedd yr afu a'r arennau. Yn ystod y cyfnod hwn mae dioddefwr fel arfer yn dechrau gwaedu'n fewnol neu'n allanol.[1] Ceir risg uchel o farwolaeth ynghlwm a'r clefyd ac y mae'n lladd rhwng 25 a 90 y cant o'r rheini wedi'u heintio, y cyfartaledd byw yw 50 y cant. Fel arfer, achosir marwolaeth gan bwysedd gwaed isel o ganlyniad i golled sylweddol mewn hylif corfforol. Mae dioddefwr yn marw fel rheol rhwng chwech ac un ar bymtheg o ddiwrnodau wedi i'r symptomau ymddangos.[2]

Ymleda'r firws drwy gysylltiad uniongyrchol hylifau corfforol, er enghraifft gwaed, naill ai o un unigolyn i'r llall neu drwy anifeiliaid.[3] Gellir dal y firws yn ogystal drwy eitem sydd wedi ei lygru a hylifau corfforol. Mae'n bosib y bydd hylifau megis llaeth o'r fron neu semen o gyn-ddioddefwr EVD yn cludo'r haint am gyfnod o wythnosau i fisoedd wedi gwellhad.[1][4][5] Y gred gyffredinol yw mai mega-ystlumod yw cludwyr arferol y cyflwr ac maent a'r gallu i ledaenu'r firws heb iddynt gael eu heffeithio. Gall glefydau eraill ymddangos yn debyg i EVA, er enghraifft malaria, colera, twymyn tyffoid, llid yr ymennydd a heintiau hemorrhagig feirol. Cynhelir profion gwaed er mwyn canfod RNA, gwrthgyrff feirol neu'r firws ei hun, a hynny i gadarnhau'r diagnosis.

Rhaid cynnal gwasanaethau meddygol cydlynol os ceir ffrwydrad o ddioddefwyr, a hynny ochr yn ochr â phroses ymgysylltu cymunedol trylwyr. Wrth gynnal gwasanaeth meddygol rhai canfod achosion o'r cyflwr mor gyflym â phosib, olrhain y cyswllt a wnaed gyda'r unigolion heintiedig, sicrhau mynediad cyflym i gyfleusterau labordai, cynnig gofal iechyd priodol i'r heintiedig, a gwaredi unrhyw gyrff marw drwy amlosgi neu gladdu trylwyr.[6] Dylid trin profion hylifau corfforol a meinweoedd dioddefwyr â gofal eithriadol. Wrth drin y cyflwr rhai cyfyngu ar ledaeniad y clefyd o anifeiliaid heintiedig. Gellir hefyd gwisgo dillad amddiffynnol o amgylch dioddefwr, ynghyd â golchi dwylo'n drylwyr wedi unrhyw gysylltiad. Ni cheir triniaeth benodol na phigiad pwrpasol er mwyn gwarchod rhag y firws, er bod nifer o driniaethau posibl yn cael eu hastudio ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae ymdrechion cefnogol yn gwella canlyniadau. Gall hyn gynnwys naill ai therapi ail-hydradu (yfed ychydig o ddŵr wedi ei felysu neu dŵr hallt) neu gynnig triniaeth hylifau mewnwythiennol ynghyd â thrin symptomau'n gyffredinol.

Adnabuwyd y clefyd am y tro cyntaf ym 1976, a hynny mewn dau achos cydamserol, un yn Nzara, a'r naill yn Yambuku, pentref ger Afon Ebola, a dyna le bathwyd yr enw.[7] Mae ffrwydradau o achosion EVD yn digwydd yn ysbeidiol mewn rhanbarthau trofannol o Affrica Is-Sahara. Rhwng 1976 a 2013 adroddodd Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfanswm o 24 achos yn cynnwys 1,716 o ddioddefwyr.[1][8] Serch hynny, cafwyd ffrwydrad sylweddol o'r cyflwr yng Ngorllewin Affrica yn ystod epidemig Rhagfyr 2013 i Ionawr 2016. Cofrestrwyd 28,616 o achosion ac arweiniodd y cyflwr at 11,310 o farwolaethau yn ystod y cyfnod. Erbyn y 29ain o Fawrth 2016 nid oedd yr achos o statws argyfyngus. Cychwynnodd ffrwydrad arall o achosion yn Affrica ym Mai 2017, a hynny yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.[9][10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Ebola virus disease Fact sheet No. 103". World Health Organization. Medi 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Awst 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Ruzek, edited by Sunit K. Singh, Daniel (2014). Viral hemorrhagic fevers. Boca Raton: CRC Press, Taylor & Francis Group. t. 444. ISBN 9781439884294. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Ebrill 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: extra text: authors list (link)
  3. "2014 Ebola Virus Disease (EVD) outbreak in West Africa". WHO. 21 Ebrill 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 3 Awst 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. "Preliminary study finds that Ebola virus fragments can persist in the semen of some survivors for at least nine months". CDC. 14 Hydref 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Awst 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. "Recommendations for Breastfeeding/Infant Feeding in the Context of Ebola". cdc.gov. 19 Medi 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Hydref 2014. Cyrchwyd 26 Hydref 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. "Guidance for Safe Handling of Human Remains of Ebola Patients in U. S. Hospitals and Mortuaries". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Hydref 2014. Cyrchwyd 10 Hydref 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. "Ebola virus disease, Fact sheet N°103, Updated September 2014". World Health Organization. Medi 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 15 Rhagfyr 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. "Ebola Viral Disease Outbreak – West Africa, 2014". CDC. 27 Mehefin 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mehefin 2014. Cyrchwyd 26 Mehefin 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  9. "Statement on Ebola in the Democratic Republic of the Congo". World Health Organization. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mai 2017. Cyrchwyd 12 Mai 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  10. Hodal, Kate (12 Mai 2017). "Ebola outbreak declared in Democratic Republic of the Congo after three die". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mai 2017. Cyrchwyd 12 Mai 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)