Cibwts Gifat Chaim (Ichwd)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Arwydd Givat Haim Ihud

Mae Gifat Chaim (Ichwd) silladiad Saesneg, Givat Haim (Ihud) (Hebraeg: גבעת חיים (איחוד)‎, ynganner Gifat Chaim (Ichwd) llyth. "Bryn Bywyd", ysytyr Ihud yw 'undeb') yn Cibwts ger Hadera yn Israel. Lleolir hi o fewn ffiniau Cyngor Rhanbarthol Dyffryn Hefer. Ei phoblogaeth yn 2017 oedd, 1,088. Mae'r Cibwts wedi ei lleoli 38km o ddinas Tel Aviv a 73km o Jeriwsalem.[1]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Chaim Arlozorov a enwyd y Cibwts are ei ôl, 1933)

Sefydlwyd y cibwts gwreiddiol yn 1932 yn wreiddiol o dan yr enw Givat Gimmel ac fe'i enwyd ar ôl Chaim Arlozorov (sillefir hefyd Haim Arlosoroff), ysgrifennydd cenedlaethol y Asiantaeth Iddewig a lofruddiwyd ar y traeth yn Tel Aviv yn 1933 - efallai am iddo ddelio gyda'r Natsiaeth i wneud yn haws i Iddewon ymfudo i Balesteina.[2] Daeth y rhan fwyaf o'r aelodau gwreiddiol o ddwyrain a chanol Ewrop.[3]

Sefydlwyd y cibwts yn 1952 yn dilyn rhwyg athronyddol o fewn cibwts Givat Haim (a sefydlwyd yn 1932) gyda aelodau oedd yn cefnogi'r blaid asgell chwith Mapam yn mynd ati i greu cibwts Givat Haim (Meuhad), a ymunodd gyda mudiad HaKibbutz HaMeuhad, ac thrigolion oedd yn cefnogi'r blaid Mapam (plaid asgell chwith Meretz bellach yn ymadael i greu Givat Haim (Ihud), a ymunodd â mudiad Ihud HaKvutzot veHaKibbutzim oedd yn gysylltiedig â'r blaid Mapai (sef, y Blaid Lafur Israel, mwy chwith canol, bellach). Heddiw mae'r ddau gibwts yn aelodau o'r 'Mudiad Cibwts' ("Kibbutz Movement", HaTnu'a HaKibbutzit) sy'n uniad a grewyd yn 1999 o sawl gwahanol fath athronyddol o gibwts.

Cafwyd cymodi o fath rhwng y ddau gibwts yn 2012 gyda phenodi Eyal Nissan yn brif weithredwr ar y cyd.[4]

Economi[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ogystal ag amaethyddiaeth, mae'r cibwts yn gartref i Prigat[5], cwmni diod ysgafn fawr yn Israel.

Hynodrwydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Un hynodrwydd o'r Cibwts yw iddo fod yn destun ffilmig addysgol gan Encyclopaedia Britannica Educational Corporation yn 1973, Israeli boy - life on a kibbutz[6] Yn y ffilm fer 15 munud dilynir bywyd un o blant y cibwts, a'i deulu o'r cyfenw Shamir.

Mae'r cibwts hefyd yn le magwyd y canwr Israeli, Ivri Lider, sydd yn hoyw ac wedi ymgyrchu dros hawliau hoyw.[7]

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]