Ciara Horne

Oddi ar Wicipedia
Ciara Horne
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnCiara Maurizia Horne
Dyddiad geni (1989-09-17) 17 Medi 1989 (34 oed)[1]
Taldra1.79m[2]
Pwysau60kg[2]
Manylion timau
DisgyblaethTrac a ffordd
RôlReidiwr
Math seiclwrDygner
Tîm(au) Amatur
Tîm(au) Proffesiynol
2014–
Pearl Izumi Sports Tours International[3]
Golygwyd ddiwethaf ar
11 Awst 2016

Seiclwraig Prydeinig yw Ciara Maurizia Horne (ganwyd 17 Medi 1989), sy'n cynyrchioli Cymru ar hyn o bryd. Gynt, bu'n cynyrchioli Iwerddon yn rhyngwladol.

Magwyd Horne yn Kenilworth, ger Coventry, Swydd Warwick a mynychoddd Ysgol Ramadeg Merched Stratford,[4] Enillodd Horne radd dosbarth cyntaf mewn Ffisiotherapi o Brifysgol Birmingham yn 2013.

Cychwynnodd Horne ei gyrfa ym myd chwaraeon fel nofwraig, gan gystadlu o 7 oed, a mynd ymlaen i gystadlu'n rhyngwladol hyd oedd hi'n 16 oed, pan anafodd ei hysgwydd a bu angen iddi gael llawdriniaeth. Dyma ysgogodd Horne i newid i gystadlu mewn triathlon, gan ennill lle yn y rhaglen "world class start" a chystadlu yng Nghwpan y Byd Iau yn Salford, ble daeth yn 8fed. Ond, bu'n dal i ddioddef o amryw anafiadau, felly drwy seiclo y horfforddodd yn bennaf, a dyna sut y magwyd ei pherthynas gyda'r beic. Ymunodd Horne â thîm seiclo am y tro cyntaf ym mis Hydref 2009.[5]

Roedd Horne wedi cymhwyso i gynrychioli Iwerddon try ei mam, ond ym mis Gorffennaf 2012, ildiodd Horne ei dinasyddiaeth o'r Iwerddon.[6] Gan y bu ganddi dinasyddiaeth ddeuol, cymhwysodd Horne i seiclo dros Brydain gyda thrwydded British Cycling. Ganwyd ei thad yn y Barri, Bro Morgannwg, ac elly derbyniodd y cynnig i hyfforddi gyda thîm Cymru.[7]

Cynrychiolodd Horne Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2014,[8] gan gystadlu yn y treial amser a'r pursuit unigol.[2]

Palmarès[golygu | golygu cod]

2011
2il Treial amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Iwerddon
2il Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Iwerddon
2il Ras scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Iwerddon
2012
2il Pursuit tîm, Rownd 1, Cwpan Seiclo Trac y Byd, UCI 2012–2013, Cali (gyda Amy Roberts & Elinor Barker)
2013
3ydd Pursuit tîm, Rownd 3, Cwpan Seiclo Trac y Byd, UCI 2012–2013, Cali (gyda Amy Roberts & Elinor Barker)
2014
1af Pursuit tîm, Rownd 1, Cwpan Seiclo Trac y Byd, UCI 2014–2015, Guadalajara (gyda Laura Trott, Elinor Barker & Amy Roberts)[9]
1af Pursuit tîm, Rownd 2, Cwpan Seiclo Trac y Byd, UCI 2014–2015, Llundain (gyda Laura Trott, Elinor Barker & Katie Archibald)[10]
2il Pursuit tîm, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain (gyda Katie Archibald, Sarah Storey & Anna Turvey)[11]
2015
1af Pursuit tîm Pencampwriaethau Trac Ewrop
1af Pursuit tîm, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain (gyda Katie Archibald, Sarah Storey & Joanna Rowsell)[12]
2il Tour of the Reservoir[13]
3ydd Pursuit unigol, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain[14]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "High Performance > Athletes > Ciara Horne". The Irish Sports Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-05. Cyrchwyd 2013-01-23.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Ciara Horne: Biography". Glasgow 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2014-07-30.
  3. "Introducing Pearl Izumi Sports Tours International". ciarahorne.com. 19 March 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-25. Cyrchwyd 25 September 2014.
  4. "Horne's Olympic dreams ride on raising £10,000". The Courier (Warwick). 2011-09-19.[dolen marw]
  5. "Ciara Horne – interview with the Irish team member in Cali". Women's Cycling Ireland. 2010-12-14. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-18. Cyrchwyd 2016-08-11.
  6. "Ciara Horne declares for Great Britain; blames lack of money in Cycling Ireland". Sticky Bottle. 2012-07-04.
  7. "About". Ciara Horne. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-15. Cyrchwyd 2013-01-23.
  8. "Commonwealth Games 2014: Olympic champion Geraint Thomas and world sprint star Becky James head up Welsh cycling team for Glasgow". Wales Online. 2014-07-09.
  9. "Track Cycling World Cup: Laura Trott in GB team to win gold". bbc.co.uk. 9 November 2014. Cyrchwyd 10 November 2014.
  10. "Track Cycling World Cup: Britain claim double team pursuit gold". bbc.co.uk. 5 December 2014. Cyrchwyd 6 December 2014.
  11. "British National Track Championships 24th-28th September 2014: Communiqué No. 009" (PDF). trackworldcup.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-04-18. Cyrchwyd 25 September 2014.
  12. "British National Track Championship 25th-27th September 2015: Communiqué No 044: Category Female: Event 15km Scratch Race: Round Final Result" (PDF). British Cycling. Cyrchwyd 27 September 2015.
  13. Williams, Huw (12 April 2015). "Dani King takes overall victory in Tour of Reservoir in Women's Road Series". British Cycling. Cyrchwyd 18 April 2015.
  14. "British National Track Championships 25th-27th September 2015: Communiqué No 018: Category Female: Event 3000m Pursuit: Round Final Result" (PDF). British Cycling. Cyrchwyd 27 September 2015.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]