Chwysigen fôr
Gwedd
| Chwysigen fôr | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Cnidaria |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Siphonophora |
| Teulu: | Physaliidae |
| Genws: | Physalia |
| Rhywogaeth: | P. physalis |
| Enw deuenwol | |
| Physalia physalis (Linnaeus, 1758) | |
Cnidariad morol yw chwysigen fôr (lluosog: chwysigod môr;[1] Lladin: Physalia physalis). Er ei bod yn edrych yn debyg i sglefren fôr, mae'r chwysigen fôr yn seiffonoffor ac nid yw'n un greadur ond hytrach yn gasgliad o söoidau, nifer o anifeiliaid unigol sy'n ffurfio un organeb gytrefol.[2]
Mae gan y chwysigen fôr wenwyn yn ei thentaclau sy'n rhoi pigiad poenus iawn.
Traethiadau nodedig
[golygu | golygu cod]- Rhwng 17-22 Tachwedd 2020 gwelwyd niferoedd yn cyrraedd traethau Bae Ceredigion a gorllewin Môn yn ôl papurau newyddion lleol[3] a'r cyfryngau cymdeithasol[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1058 [Portuguese man-of-war].
- ↑ Grzimek, B., N. Schlager & D. Olendorf 2003. Grzimek's Animal Life Encyclopaedia. Thomson Gale.
- ↑ Cambrian News 26 Tachwedd 2020
- ↑ Cymuned Llên Natur