Neidio i'r cynnwys

Chwilys (drama)

Oddi ar Wicipedia
Chwilys
AwdurAled Jones Williams
CyhoeddwrGwasg Carreg Gwalch
GwladCymru
IaithCymraeg
PwncDramâu Cymraeg
Argaeleddmewn print
ISBN9781845273095
Dynodwyr

Drama lwyfan Gymraeg yw Chwilys gan Aled Jones Williams. Perfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a'r Cymoedd 2010 gan Theatr Bara Caws ar y cyd â Theatr Tandem. Cyhoeddwyd y ddrama, ynghyd â Merched Eira, mewn cyfrol gan Wasg Carreg Gwalch yn 2010.

Disgrifiad byr

[golygu | golygu cod]

Drama dau gymeriad yw Chwilys wedi'i chyfansoddi fel deialog rhwng dau ddyn sydd ddim yn cael eu henwi. Mae 'Dyn 1' yn gyfieithydd ac wedi cyfieithu casgliad o gerddi o Iran i'r Gymraeg. Mae'n paratoi i fynd i'r noson lansio yn Yr Academi Gymraeg pan mae 'Dyn 2' (sy'n ymddangos fel ysbïwr i'r llywodraeth neu'r fyddin) yn camu allan o'i wardrob gan ddechrau gofyn cwestiynau iddo. Mae'r cwestiynau cychwynnol yn rhai digon dibwrpas neu'n ddiogel, ond maen nhw'n troi'n eithaf tywyll wrth i 'Ddyn 2' gyhuddo 'Dyn 1' o fod yn rhan o ymosodiad terfysgol.

Mae yma elfennau gwleidyddol yn y ddrama, wrth i'r cymeriadau sôn am ddewis Llywodraeth Prydain i fynd i 'rhyfel yn erbyn terfysgaeth'.

Mae'r actor sy'n portreadu 'Dyn 2' yn gorfod penderfynu a fyddai'n lladd ei hun neu'n lladd 'Dyn 1', erbyn y diwedd. Felly mae dau fath gwahanol o ddiweddglo i'r ddrama.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Dyn 1
  • Dyn 2

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y ddrama gan Theatr Bara Caws ar y cyd â Theatr Tandem yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2010. Valmai Jones oedd yn cyfarwyddo gyda Martin Thomas ac Owen Arwyn yn portreadu'r ddau gymeriad.

Ymateb dryslyd oedd gan adolygydd theatr Y Cymro ar y pryd, "Yn anffodus i Valmai Jones, doedd fy nehongliad i ddim yn cyd-fynd â’r hyn a welodd hi yn y ddrama," nododd Paul Griffiths, "...a dyma’r tir bregus wrth ymdrin â gwaith Aled. A bod yn onest, dwi dal ddim yn siŵr beth oedd ei dehongliad hi, gan fod y cynhyrchiad yn gwegian ac yn cwffio rhwng yr haniaethol a’r diriaethol, y realaeth a’r meddyliol, a chamgymeriad mawr oedd ychwanegu at y dryswch drwy gynnwys y ddau ddiweddglo," ychwanegodd.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Griffiths, Paul (2010-08-27). "Paul Griffiths: 'Chwilys' a 'Merched Eira'". Paul Griffiths. Cyrchwyd 2025-07-28.

Tri Dramodydd Cyfoes: Meic Povey, Siôn Eirian ac Aled Jones Williams Archifwyd 2022-09-15 yn y Peiriant Wayback – Traethawd doethuriaeth Manon Wyn Williams, Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor Hydref 2015