Chwe Chyfres ar gyfer Sielo Digyfeiliant

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Bachs1a.gif
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolgroup of musical works Edit this on Wikidata
CyfansoddwrJohann Sebastian Bach Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tudalen gyntaf o gyfres #1 i G fwyaf, BWV 1007

Fe ystyrir y Chwe Chyfres ar gyfer Sielo Digyfeiliant gan J. S. Bach (BWV 1007-1012) fel rhai o'r gwaith pwysicaf ar gyfer y sielo unigol. Mae fwy na thebyg y cawsant eu cyfansoddi rhwng 1717 a 1723 pan roedd Bach yn gwasanaethu fel kapellmeister yng Nghöthen.

Ysgrifennwyd y cyfresi mewn chwe symudiad, yn y drefn ganlynol:

  1. Preliwd
  2. Allemande
  3. Courante
  4. Sarabande
  5. Galanteries - miniwétau ar gyfer cyfresi 1 a 2, bwrê ar gyfer 3 a 4, a gafótau ar gyfer 5 a 6
  6. Gîgue

Offerynau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifennwyd cyfresi ar gyfer y fath fwyaf cyffredin o sielo yn y cyfnod, wedi'i tiwnio i'r un nodau â sielo gyfoes. Mae angen ail-diwnio'r llinyn A i G yn lle ar gyfer y 5ed (BWV 1011). Yn ôl pob tebyg, bwriadodd Bach i'r 6ed (BWV1012) gael ei chwarae ar offeryn gyda 5 llinyn (y llinyn uchaf yn E uchel), y violoncello piccolo, neu o bosib y viola pomposa.

Ysgrifennodd Bach fersiwn amgen o'r 5ed ar gyfer Liwt. Mae cerddorion cyfoes wedi creu fersiynau ar gyfer amryw offerynau gan gynnwys fiolin, fiola, bas dwbl, viola da gamba, mandolin, piano, marimba, gitâr, recorder, corn, sacsoffôn, clarinét bas, basŵn, utgorn, trombôn, ewffoniwm a thiwba.

Music template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.