Chwarel Pen yr Orsedd
Gwedd
| Math | chwarel lechi |
|---|---|
| Agoriad swyddogol | 1862 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gwynedd |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.06395°N 4.227319°W |
| Cod OS | SH65131524 |
![]() | |
| Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
| Manylion | |
| Dynodwr Cadw | CN208 |
Chwarel lechi yn Nyffryn Nantlle yw Chwarel Pen yr Orsedd (weithiau Chwarel Penyrorsedd).
Agorwyd y chwarel yn 1816 gan William Turner, oedd yn gyfrifol am nifer o chwareli yn yr ardal. Prynwyd hi gan W.A. Darbishire and Co. yn 1863. Roedd yn un o chwareli mwyaf Dyffryn Nantlle, gyda tua 450 o weithwyr ddiwedd y 19g.

Caewyd y chwarel yn 1997, ond mae rhywfaint o waith yn mynd ymlaen ar y safle o hyd. Yn 2006, enillodd cynllun i adfer rhai o adeiladau Pen yr Orsedd rownd Cymru yng nghyfres deledu'r BBC Restoration Village, er na fu'n llwyddiannus yn y rownd derfynol. Mae'r elusen Tirwedd wedi gwneud cais am arian i adfer yr adeiladau hyn a'u troi'n ganolfan i'r gymdeithas leol.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Safle we Tirwedd Archifwyd 2008-05-18 yn y Peiriant Wayback
