Chwarel Moel Tryfan

Oddi ar Wicipedia
Chwarel Moel Tryfan
Mathchwarel Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.07825°N 4.22108°W Edit this on Wikidata
Map

Chwarel lechi gerllaw Rhosgadfan yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd, oedd Chwarel Moel Tryfan. Saif ar lechweddau deheuol Moel Tryfan.

Wedi cyfnod o weithio ar raddfa fechan, datblygodd y chwarel yn gyflyn yn y 1880au pan gafwyd cysylltiad i'r rheilffordd, ac roedd 81 o weithwyr yn cael eu cyflogi yn 1882. Roedd y chwarel yma yn agos i Chwarel Alexandra, a phan dorrodd y gweithfeydd trwodd i'r chwarel honno, cludwyd llechfaen o'r Alexandra i felinau llechi Moel Tryfan. Caeodd y chwarel yn y 1970au.

Chwarel Moel Tryfan

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Dewi Tomos, Llechi Lleu (Cyhoeddiadau Mei, 1980)
  • Alun John Richards, A Gazetteer of the Welsh Slate Industry (Gwasg Carreg Gwalch, 1991)