Christmas (albwm Michael Bublé)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Michael Bublé


Christmas yw'r seithfed albwm stiwdio gan y canwr Canadaidd Michael Bublé. Cafodd yr albwm ei rhyddhau ar Hydref 21, 2011 yn Iwerddon, 24 Hydref 2011 yn y Deyrnas Unedig a 25 Hydref 2011 yn yr Unol Daleithiau America. Ar yr wythnos yn gorffen ar Rhagfyr 10, 2011, daeth yr albwm i Rhif 1 ar y siart gwerthiannau albwm 200 Billboard, dyma'r drydedd albwm gan Bublé i fod yn Rhif 1, yn dilyn Call Me Irresponsible yn 2007 a Crazy Love yn 2009. Roedd yr albwm yn Rhif 1 am bump wythnos.[1][2]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyma ail albwm Nadoligaidd Bublé, ar ôl iddo cyhoeddi albwm pum trac Let It Snow yn 2003. Roedd rhai o'r caneon o Let It Snow wedi cael eu hail-recordio ar gyfer Christmas, yn gwneud Christmas yn albwm llawn o ganeuon Nadoligaidd. Ar gyfer yr albwm, roedd Bublé wedi gweithio gydag artistiad eraill er mwyn recordio deuawdau. Mae ei ddeuawd o White Christmas gyda'r canwr gwledig Shania Twain yn seiliedig ar drefniant blaenoral gan y bandThe Drifters.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Michael Bublé Weekend At Brown Thomas". Dailyupdate.ie. 21 Hydref 2011. Archifwyd o y gwreiddiol ar November 16, 2012. Adalwyd 2 Rhagfyr 2012.  Check date values in: |access-date=, |archive-date= (help)
  2. "hmv". hmv. Archifwyd o y gwreiddiol ar 24 Ionawr 2012. Adalwyd 2 Rhagfyr 2012.  Check date values in: |access-date= (help)