ChatGPT

Oddi ar Wicipedia
ChatGPT
Enghraifft o'r canlynollarge language model, chatbot Edit this on Wikidata
CrëwrOpenAI Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Iaithieithoedd lluosog Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi30 Tachwedd 2022 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu30 Tachwedd 2022 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysChatGPT Plus Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintdan hawlfraint Edit this on Wikidata
GweithredwrOpenAI Edit this on Wikidata
DosbarthyddAmazon Appstore, App Store, Google Play Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://chat.openai.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae ChatGPT (Trawsnewidydd Cyn-hyfforddedig Cynhyrchiol Sgyrsiol) yn sgwrsfot a ddatblygwyd gan OpenAI ac a lansiwyd ar 30 Tachwedd 2022. Yn seiliedig ar fodel iaith mawr, mae'n galluogi defnyddwyr i fireinio a llywio sgwrs yn unol â'r hyd, fformat, arddull, lefel manylder ac iaith a ddymunir. Ystyrir ysgogiadau ac atebion olynol er mwyn strwythuro'r testun mewn ffordd y gellir ei ddehongli a'i ddeall gan fodel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol (peirianneg ysgogiadau), ym mhob cam o'r sgwrs fel cyd-destun.[1]

Erbyn Ionawr 2023, dyma oedd y feddalwedd defnyddwyr a dyfodd gyflymaf erioed, gyda dros 100 miliwn o ddefnyddwyr yn cyfrannu at dwf ym mhrisiad OpenAI i $29 biliwn.[2][3] Arweiniodd dyfodiad ChatGPT at ddatblygu cynhyrchion tebyg, fel Bard, Ernie Bot, LLaMA, Claude, a Grok.[4] Lansiodd Microsoft feddalwedd Copilot, yn seiliedig ar GPT-4 gan OpenAI. Mynegodd rai arsylwyr bryder am botensial ChatGPT a rhaglenni tebyg i ddadleoli neu wanhau deallusrwydd dynol, galluogi llên-ladrad, neu ledu camwybodaeth.[5][6]

ChatGPT sy'n cael y clod am gychwyn y cyfnod presennol o ddatblygiad cyflym a digynsail ym maes deallusrwydd artiffisial.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Lock, Samantha (Rhagfyr 5, 2022). "What is AI chatbot phenomenon ChatGPT and could it replace humans?". The Guardian (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar Ionawr 16, 2023. Cyrchwyd Rhagfyr 5, 2022.
  2. Hu, Krystal (Chwefror 2, 2023). "ChatGPT sets record for fastest-growing user base – analyst note". Reuters (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar Chwefror 3, 2023. Cyrchwyd Mehefin 3, 2023.
  3. Varanasi, Lakshmi (Ionawr 5, 2023). "ChatGPT creator OpenAI is in talks to sell shares in a tender offer that would double the startup's valuation to $29 billion". Insider. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Ionawr 18, 2023. Cyrchwyd Ionawr 18, 2023.
  4. "What's the next word in large language models?" (yn en). Nature Machine Intelligence 5 (4): 331–332. Ebrill 2023. doi:10.1038/s42256-023-00655-z. ISSN 2522-5839.
  5. Gertner, Jon (18 Gorffennaf 2023). "Wikipedia's Moment of Truth". The New York Times Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Gorffennaf 2023. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2023.
  6. "What is ChatGPT and why does it matter? Here's what you need to know". ZDNET (yn Saesneg). 30 Mai 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Chwefror 2023. Cyrchwyd 22 Mehefin 2023.
  7. Weise, Karen; Metz, Cade; Grant, Nico; Isaac, Mike (2023-12-05). "Inside the A.I. Arms Race That Changed Silicon Valley Forever". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2023-12-11.