Centre Point

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Centre Point
Gwybodaeth gyffredinol
Statws Under Reconstruction
Math Office
Arddull bensaernïol Brutalist
Cyfeiriad New Oxford Street
Tref neu ddinas London
Gwlad Deyrnas Unedig
Dechrau adeiladu 1963
Gorffenwyd 1966
Adferwyd Start in 2016
Uchder 117m (385ft)
Technical details
Structural system Reinforced concrete
Nifer o loriau 34
Cynllunio ac adeiladu
Prif gontractwr Wimpey Construction
Pensaer George Marsh
Cwmni pensaernïol R. Seifert and Partners
Peiriannydd strwythurol Pell Frischmann
Gwefan
centrepointresidences.co.uk/

Adeilad yn Llundain Fwyaf yw Centre Point, sy'n cynnwys tŵr 33-llawr; bloc 9-llawr i'r dwyrain sy'n cynnwys siopau, swyddfeydd, unedau manwerthu a fflatiau deulawr; a bloc cysylltu rhwng y ddau ar y llawr cyntaf. Saif ar 101-103 New Oxford Street a 5-24 St Giles High Street, WC1, gyda ffryntiad hefyd i Charing Cross Road, yn agos i St. Giles Circus a bron yn uniongyrchol uwchben Tottenham Court Road orsaf Danddaearol. Yn hanesyddol bu crocbren ar y sale hwn safle.[1]

Mae'r adeilad yn 117m (385 troedfedd) o uchder, gyda 34 llawr[2] a 27,18027,180 m2 (292,563 tr sg) o arwynebedd llawr. Fe'i adeiladwyd rhwng 1963 a 1966, ac fe roedd yn un o'r nendyrau cyntaf yn Llundain ac ers 2009 mae'n gydradd 27fed adeilad talaf y ddinas. Safai'n wag ar ôl ei gwblhau tan 1975, ac am gyfnod yn 1974 fe'i meiddiannwyd gan ymgyrchwyr yn erbyn diffyg tai yn 1974. Yn 1995, fe'i ddynodwyd yn adeilad restredig Gradd II. Yn dilyn gwaith eang yn 2015 fe droswyd y tŵr o fod yn adeilad o swyddfeydd i fod yn fflatiau moethus.

Adeiladu a hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Dylunwyd yr adeilad gan George Marsh o'r penseiri R. Seifert and Partners,[3][4] gyda pheirianwyr Pell Frischmann a adeiladwyd gan Wimpey Consruction o 1963 hyd 1966.[5] am £5.5 million.[6] Ffurfiwyd y segmentau cyn-gastiedig o goncrid mân  gan ddefnyddio Carreg Portland wedi ei falu a wnaed gan Portcrete Limited ym Mhortland, Ynys Portland, Dorset. Fe'u cludwyd i Lundain gan lori.[7]

Fe adeiladwyd Centre Point fel gofod swyddfa hapfasnachol gan y teicŵn eiddo  Harry Hyams, a oedd ar brydles i'r safle ar  £18,500 y flwyddyn am 150 o flynyddoedd. Bwriadodd Hyams i'r adeilad cyfan gael ei feddiannu gan un tenant, a thrafodwyd yn ffyrnig ar gyfer hyn gael ei gymeradwyo.[8]

Yn dilyn ei gwblhâd, arhosodd yr adeilad yn wag am nifer o flynyddoedd, gan arwain iddo gael ei gyfeirio ato fel "Nendwr Gwag Llundain".[9] Gyda phrisiau eiddo yn codi a'r  rhan fwyaf o denantiaethau busnes yn cael eu cymeryd ar gyfer  cyfnodau o 10 neu 15 mlynedd, gallai Hyams fforddio i gadw'r tŵr yn wag ac aros am un tenant i gytuno'r pris gofyn o £1,250,000. Cafodd ei herio i alluogi tenantiaid i rentu lloriau sengl ond yn gwrthododd yn gyson. Ar yr adeg honno, roedd nendyrau'n brin yn Llundain, ac arweiniodd amlygrwydd Centre Point at iddo fod yn symbol ralio ar gyfer gwrthwynebwyr.

Yn 1974 bu i grŵp ymbarél  Direct Action sef ymgyrchwyr dros gartrefedd, gan gynnwys Jim Radford, Ron Bailey a Jack Dromey, drefnu penwythnos meddiannaeth o Centre Point rhwng Ionawr 18-20 i amlygu'r ffaith fod y tŵr wedi ei adael yn fwriadol wâg yn ystod amser o argyfwng tai yn Llundain. (Roedd dau o'r meddianwyr wedi cael swyddi gyda'r cwmni a oedd yn gwarchod yr adeilad, Burns Security Company.)[10]

O fis Gorffennaf 1980 hyd at Fawrth 2014, lleolwyd pencadlys Cydffederasiwn Diwydiant Prydeinig (CBI) yn Centre Point; yn 33 mlynedd a saith mis, daethant yn denantiaid hiraf-sefydlog y tŵr.

Dec Arsylwi Centre Point

Ym mis Hydref 2005, prynwyd Centre Point  oddi wrth y perchnogion blaenorol, Blackmoor LP, gan gwmni eiddo masnachol Targetfollow am £85 miliwn. Cafodd yr adeilad ei adnewyddu'n helaeth. O 2009 roedd preswylwyr Centre Point yn cynnwys ye asiantaeth talent Americannaidd William Morris; cwmni olew wladwriaethol cenedlaethol Sawdi-Arabia, Aramco; cwmni olew Tseiniaidd Petrochina; a chwmni gemau electroneg EA Gemau.As of 2009

Ers hynny prynwyd y tŵr gan Almacantar. Cysylltodd Almacantar Conran and Partners ar gyfer y gwaith o adnewyddu'r y tŵr gan gynnwys y newid o ddefnydd swyddfa i breswyl, wrth MICA, gynt Rick Mather Architects, arwain y gwaith o adnewyddu'r îs adeiladau â'r bloc newydd o dai fforddiadwy. Yn 2015 dechreuodd y gwaith o addasu'r  adeilad i fflatiau preswyl.[11]

Cludiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae ffynhonnau Centre Point wedi cael ei dymchwel fel rhan o'r gwaith o ail-drefnu'r  plaza ar gyfer Crossrail.

Ni gyflwynwyd y gwelliannau i'r gyfnewidfa drafnidiaeth a phriffyrdd fel a addawyd yn y cynlluniau gwreiddiol. Dennwyd gweithgareddau gwrth-gymdeithasol i'r isffordd bedestraidd. Ar y 19fed o Fehefin 2006 feb dynnwyd sylw gan y Comisiwn dros Bensaernïaeth a'r Amgylchedd Adeiledig at yr adeilad fel enghraifft o ddylunio gwael, lle bu i balmentydd  a gynlluniwyd o'i amgylch orfodi cerddwyr i fewn i lôn fysus gan achosi'r lefel uchaf o anafiadau i gerddwyr yng Nghanol Llundain. Gyda chynlluniau i ailddatblygu gorsaf tanddaearol Tottenham Court Road bellach wedi eu gorffen, mae fframwaith wedi cael ei fabwysiadu lle nad oes angen ar gerddwyr i fordwyo drwy lonnydd o draffig.[12] Mae'r gwaith atgyweirio a pharatoi ar gyfer dyfodiad gorsaf Crossrail yn Tottenham Court Road wedi ei gwblhau (uwchben y ddaear o leiaf) erbyn 2019, ac er nad oes ffynhonnau tu allan I Centre Point mwyach, mae'r plaza yno ar ei newydd wedd.

Derbyniad pensaernïol [golygu | golygu cod y dudalen]

Y beirniad pensaernïaeth Nikolaus Pevsner a ddisgrifodd Centre Point yn "fras yn y eithaf". Yn 1995 daeth yn adeilad rhestredig Gradd II. Yn 2009, enillodd y Mature Structure Award gan y Concrete Society.[13]

Cyfeiriadau diwylliannol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Bu sylw i Centre Point yn y ffilm arswyd 1977 The Medusa Touch. Ynddi gwêl awyren Boeing 747 yn taro brig y tŵr a'i ddinistrio. Mae cwymp y tŵr yn dinistrio'r Dominion Theatre drws nesaf.[14]
  • Centre Point yw un o leoliadau lle mae Jim (Cillian Murphy) yn cerdded heibio yng ngolygfeydd o  "Lundain anghyfannedd" o ffilm arswyd Brydeinig 28 Later (2002). Cyfeirir y cyfarwyddwr Danny Boyle ati hefyd  (fel  "Centre Point, yr adeilad gwag/rhannol wag enwog yn y rhan brysur hon o Lundain") mewn sylwebaeth ar y DVD.[15]
  • Mae'r cymeriad  "Old Bailey" yn gwersylla ar ben Centre Point ar un adeg yn nofel Neil Gaiman, Neverwhere. Mae'n disgrifio'r tŵr yn "hyll ac yn nodedig o nendwr o'r Chwedegau" ac yn mynd ymlaen i arsylwi fod "yr olygfa o'r top yn heb eu ail, ac, ar ben hynny, mai bod ar dop Centre Point yw'r un o'r ychydig leoedd yn y West End yn Llundain lle nad oes raid i chi edrych ar Centre Point ei hun"n[16]
  • Mae'r adeilad yn cael ei grybwyll yn y chweched bennod yng nghyfres gomedi'r BBC,The Thick of It. Yn ystod ymchwiliad i ddiwylliant llywodraeth y DU o ryddhau gwybodaeth i'r wasg, gofynnir i Stuart Pearson, sbin doctor Ceidwadol,  am gyfatebiaeth y mae wedi ei wneud rhwng tryloywder y llywodraeth a'r Ganolfan Pompidou. Awgrymir aelod o'r ymchwiliad  mai yn hytrach na chreu "Canolfan Pompidou gwleidyddol," fod Pearson wedi creu'r " gwrthwyneb, sef Centre Point – golygaf fod pawb yn ei weld yn ymrithio trostynt, ond does gan neb syniad beth sy'n digwydd yno." Atebai Pearson, "Yr wyf yn meddwl bod rhyw fath o glwb ar y llawr uchaf."[17]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Adeiladau tal yn Llundain
  • Rhestr o nendyrau

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Peter Ackroyd, London: The Biography, Chatto & Windus, Llundain, 2000. ISBN 1-85619-716-6.
  2. Targetfollow news archive, 06/10/05
  3. Cherry, Bridget; Pevsner, Nikolaus (1988). London 4: North. The Buildings of England. New Haven, CT: Gwasg Prifysgol Yale. p. 316. ISBN 0300096534. Adalwyd 5 Hydref 2014.  Check date values in: |access-date= (help)
  4. Cruikshank, Dan (Ionawr 1995). "Centre Point 1966–1995". RIBA Journal (Royal Institute of British Architects) 102 (1): 39–45.
  5. White, p. 26.
  6. Almacantar.
  7. Stuart Morris, Portland; an Illustrated History, The Dovecote Press.
  8. "Harry's Sore Point". 24 Gorffennaf 1972. http://www.time.com/time/magazine/article/0,9171,906178-1,00.html.
  9. Centre Point Tower, London: An architectural icon from the 1960s, London Landmarks, Urban75, April 2012.
  10. Edward Platt, "Hot air over an office block: It's 25 years since the protests over Centre Point. Not much has changed", The Independent, 16 Ionawr 1999.
  11. Hilary Osborne, "Work begins on luxury flat conversion of London landmark Centre Point", The Guardian, 26 January 2015.
  12. "Work starts on public plaza beneath Richard Seifert's Centre Point", De Zeen, 27 January 2015.
  13. 43rd Concrete Society Awards.
  14. The Medusa Touch (1978), https://www.imdb.com/title/tt0077921/trivia, adalwyd 2017-07-11
  15. "28 Days Later". IMDB. https://www.imdb.com/title/tt0289043/.
  16. "Neverwhere". IMDB. https://www.imdb.com/title/tt0115288/.
  17. "The Thick of It". BBC. http://www.bbc.co.uk/programmes/b006qgrd.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • White, Valerie (1980). Wimpey: The first hundred years. George Wimpey. 

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]