Neidio i'r cynnwys

Ceffyl Przewalski

Oddi ar Wicipedia
Ceffyl Przewalski
Ceffyl Przewalski ym Mharc Cenedlaethol Khar Us Nuur, Mongolia (2005).
Enghraifft o:tacson Edit this on Wikidata
Safle tacsonisrywogaeth Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonEquus ferus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Is-rywogaeth o geffyl gwyllt sydd yn frodorol i stepdiroedd Canolbarth Asia yw ceffyl Przewalski (Equus caballus przewalskii neu Equus ferus przewalskii). Hwn yw'r math olaf o geffyl gwyllt sydd yn dal i oroesi yn yr 21g.

Mae ganddo liw melynaidd neu lwydaidd, gyda mwng byr, heb flaen iddo, a chynffon dywyll, a fel arfer streipen ar hyd ei gefn. Mae'r ysgwyddau isel yn meinhau tua'r cefn a'r bedrain fer, serth. Saif rhyw 12 i 14 dyrnfedd o uchder (48 i 56 modfedd, neu 122 i 142 cm).[1]

Enwir y ceffyl ar ôl y fforiwr Rwsiaidd Nikołaj Przewalski, y dyn cyntaf o'r Gorllewin i'w ddarganfod a'i ddal, a hynny yng ngorllewin Mongolia yn niwedd y 1870au. Dygwyd sawl sbesimen i Ewrop i'w cadw a'u bridio mewn milodfeydd a sŵau. Methodd sawl alldaith i ganfod y ceffyl yn ail hanner yr 20g, ac o'r herwydd cyhoeddwyd ei fod wedi ei ddifodi yn y gwyllt. Tybiwyd bod yr unigolion olaf o'r is-rywogaeth wedi eu croesi â cheffylau hanner-gwyllt. Fodd bynnag, daeth biolegwyr o hyd i un o'r is-rywogaeth yn y gwyllt ym 1996, a newidiwyd statws IUCN ceffyl Przewalski i "mewn perygl difrifol". Yn 2011, datganwyd ei fod bellach mewn perygl, ond nid perygl difrifol.[2] Ers hynny, fe'i ailgyflwynwyd i'r gwyllt ym Mongolia, a rhannau o Ganolbarth Asia, Tsieina, a Dwyrain Ewrop.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Przewalski's horse. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Medi 2022.
  2. "Another leap towards the Barometer of Life". International Union for the Conservation of Nature. 10 Tachwedd 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Tachwedd 2011.
  3. Boyd, L.; King, S. R. B.; Zimmermann, W.; Kendall, B.E. (2015). Equus ferus. https://www.iucnredlist.org/species/41763/97204950. Adalwyd 16 Rhagfyr 2020.