Cato yr Ieuengaf

Oddi ar Wicipedia
Cato yr Ieuengaf
Ganwyd95 CC Edit this on Wikidata
Rhufain hynafol Edit this on Wikidata
Bu farw46 CC Edit this on Wikidata
o gwaediad Edit this on Wikidata
Utica Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, gwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddtribune of the plebs, quaestor, Praetor Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoloptimates Edit this on Wikidata
TadMarcus Porcius Cato Edit this on Wikidata
MamLivia Edit this on Wikidata
PriodAtilia, Marcia Edit this on Wikidata
PartnerAemilia Lepida Edit this on Wikidata
PlantPorcia, Marcus Porcius Cato, Porcius Cato, Porcia, Porcia Edit this on Wikidata
PerthnasauCato yr Hynaf, Marcus Porcius Cato Salonianus, Servilia Edit this on Wikidata
LlinachPorcii Catones Edit this on Wikidata

Gwleidydd Rhufeinig oedd Marcus Porcius Cato Uticensis, a elwir yn Cato yr Ieuengaf (Lladin: Cato Minor), (95 CC - 46 CC. Roedd yn un o wrthwynebwyr amlycaf Iŵl Cesar.

Roedd Cato yn or-ŵyr i Cato yr Hynaf. Ganed ef yn Rhufain, a chollodd ei rieni yn ieuanc. Magwyd ef gan ei ewythr, Marcus Livius Drusus. Yn 72 CC, ymladdodd fel gwirfoddolwr yn y rhyfel yn erbyn Spartacus. Daeth yn Dribwn milwrol ym Macedonia yn 67 CC, am ymddengys iddo arwain lleng am gyfnod. Etholwyd ef i swydd Quaestor yn 65 CC. Dadleuodd yn y Senedd o blaid y gosb eithaf i ddilynwyr Catilina yn 63 CC.

Daeth yn ddylanwadol iawn yn y Senedd, ac yn arweinydd plaid yr Optimaten. Daeth i wrthdrawiad a Gnaeus Pompeius Magnus, ac yn fuan wedyn a Iŵl Cesar. Gwrthwynebodd gais Cesar yn 60 CC i gael ceisio am etholiad fel Conswl heb groesi'r ffîn i mewn i ddinas Rhufain (y pomerium). Bu ganddo ran amlwg yn y rhyfel cartref a ddatblygodd yn Rhufain o dechrau 49 CC. Wedi buddugoliaeth Cesar, ffôdd Cato i Utica yng ngogledd Affrica, lle lladdodd ei hun yn hytrach nag ildio.