Catherine Osler

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Catherine Osler
Catherine Osler Birmingham suffragist.png
Ganwyd 26 Chwefror 1854 Edit this on Wikidata
Bridgwater Edit this on Wikidata
Bu farw 16 Rhagfyr 1924 Edit this on Wikidata (70 oed)
Edgbaston Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Galwedigaeth diwygiwr cymdeithasol, ymgyrchydd pleidlais i ferched, Swffraget Edit this on Wikidata

Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Catherine Osler (26 Chwefror 1854 - 16 Rhagfyr 1924) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel diwygiwr cymdeithasol ac fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched.

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Catherine Courtauld Taylor yn Bridgwater ar 26 Chwefror 1854 a bu farw yn Edgbaston. Undodwyr oedd ei rhieni: William a Catherine Taylor, ac roeddent hefyd yn aelodau o Gymdeithas Etholfraint y Merched, Birmingham (Birmingham Women's Suffrage Society), ers ei sefydlu. Catherine oedd eu merch hynaf ac etholwyd hi'n swyddog o'r gymdeithas, yn drysorydd ac yn 1885 fe'i hetholwyd yn ysgrifennydd. [1][2][3][4]

Priododd Alfred Osler a oedd yn rhedeg cwmni teuluol F & C Osler o Birmingham, cwmni a oedd yn enwog am ddylunio a chynhyrchu crisial cain a'r darnau godidog hynny sy'n hongian ar chandeliers; gwerthwyd hwy i bob rhan o'r byd. Roedd Alfred Osler yn aelod o'r Rhyddfrydwyr.

Ymgyrchydd dros hawliau menywod[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1888 cynhaliodd Ffederasiwn Ryddfrydol y Merched gynhadledd yn Birmingham a gofynnwyd i Catherine Osler lywyddu drosti.[5] Yn 1903, etholwyd hi'n Llywydd Cymdeithas Etholfraint y Merched, Birmingham.[6] Bedair blynedd yn ddiweddarach cyfarfu'r Emancipation Union yn Birmingham a gwahoddwyd Osler i gadeirio sesiwn lle rhannodd ei huchelgais i gael menywod i gymryd rhan mewn llywodraeth leol.

Gwrthwynebai gweithredoedd treisgar, milwriaethus rhai aelodau o fudiad y swffragét ac ysgrifennodd yn feirniadol iawn o weithredoedd rhai o aelodau o Undeb Gwleidyddol a Chymdeithasol y Merched (the Women's Social and Political Union). Er hyn, ni chytunodd a'r modd treisgar y deiliwyd gyda charcharorion benywaidd.[5] Yn wir, yn 1909, oherwydd polisi'r llywodraeth Ryddfrydol o orfodi merched oedd ar ympryd i fwyta, ymddiswyddodd fel llywydd Cymdeithas Ryddfrydol y Merched, Birmingham.[4]

Yn 1911, ymunodd Osler gyda Phwyllgor Gweithredol Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau Etholfraint y Merched (NUWSS).[3]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1919, fel gwerthfawrogiad o'i gwaith dros ferched, derbyniodd radd Meistr gan Brifysgol Birmingham. Comisiynwyd, hefyd, darlun olew ohoni gan Edward S. Harper.[3]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]