Catecism Mwyaf Westminster

Oddi ar Wicipedia

Catecism canolog Calfiniaid yn nhraddodiad Lloegr trwy'r byd yw Catecism Mwyaf Westminster, ynghyd â Chatecism Lleiaf Westminster.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ym 1643, pan alwodd Senedd Hir Lloegr ar Gymanfa Westminster i lunio Cyffes Ffydd Westminster, gofynnodd hefyd am gyfeiriadur o gateceisio. Gofynnodd y Gymanfa i Herbert Palmer greu drafft o'r Catecism Mwyaf, ond buodd y gwaith yn siom i Roberth Baillie a chynrychiolwyr eraill o'r Alban. Ym mis Rhagfyr 1643 daeth pwyllgor at ei gilydd i ysgrifennu'r Catecism. Y mis nesaf, rhoddodd y Gymanfa'r gorau i ysgrifennu un catecism ac yn ei le, fe'i rhanasant yn ddau. Roedd Catecism Lleiaf Westminster i fod yn "haws i'w ddarllen a chryno ar gyfer dechreuwyr" a'r Catecism Mwyaf yn "fwy cywir a chynhwysfawr". Cwblhawyd y gwaith ym 1647 ac yna'i dderbyn gan Gymanfa Gyffredinol Eglwys yr Alban y flwyddyn ganlynol, gan Synod Presbyteraidd Efrog Newydd a Philadelphia ym 1788 gyda newidiadau parthed yr ynad sifil a chan yr Eglwys Bresbyteraidd yn UDA pan sefydlwyd hi y flwyddyn wedyn.

Eglwysi yng Nghymru [golygu | golygu cod]

Yng Nghymru, mae Catecism Mwyaf Westminster yn rhan o dystiolaeth gyhoeddus yr Eglwys Bresbyteraidd Efengylaidd yng Nghymru a Lloegr.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg)"EPCEW Resources". Evangelical Presbyterian Church in England and Wales. Cyrchwyd 25 Mehefin 2014.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]