Castell Cawdor

Oddi ar Wicipedia
Castell Cawdor
Mathcastell Edit this on Wikidata
Cysylltir gydadesigned landscape at Cawdor Castle Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1454 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCyngor yr Ucheldir Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau57.524258°N 3.926612°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig categori A Edit this on Wikidata
Manylion

Lleolir Castell Cawdor ger Nairn yn yr Alban. Fe'i adeiladwyd gan William y Llew ym 1179.[1] Mae'r castell gwreiddiol wedi diflannu'n llwyr, ac fe adeiladwyd un newydd gan Bendefigion Cawdor ar safle arall yn ystod y 14g. Mae'r castell yn gartref o hyd i'r teulu Cawdor. Mae'r tŷ, y gerddi a'r coedwigoedd ar agor i'r cyhoedd, ac mae cwrs golff 9 twll yno hefyd.

Er bod Cawdor yn enwog oherwydd y ddrama Macbeth gan William Shakespeare, ac - yn ôl y ddrama - lladdwyd y Brenin Duncan yn y castell,[2], mae’r ddrama’n seiliedig ar digwyddiadau yn ystod yr 11g, cyn adeiladwyd y castell.[3]

Gerddi Castell Cawdor

Gerddi’r castell[golygu | golygu cod]

Dechreuwyd yr ardd gyntaf tua 1600. Gosodwyd gardd blodau tua 100 blynedd yn ddiweddarach. Plannwyd yr ardd gwyllt yn y 1960au, rhwng y castell a Nant Cawdor. Mae 2 ardd arall, ger Plas Achindoune, tŷ haf yr Arglwyddes Cawdor gerllaw.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]


Oriel[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato