Cashtal yn Ard
Math | Clyde tomb |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Ynys Manaw |
Cyfesurynnau | 54.27544°N 4.36325°W |
Mae Cashtal yn Ard (“Castell yr uchelfannau" yn Manaweg) yn safle cynhanesyddol ar Ynys Manaw. Darganfuwyd y safle yn y 1930au ar fryn ger Afon Cornaa ym mhlwyf Maughold. Sefydliad Eiraght Ashoonagh Vannin sy'n gweinyddu'r safle bellach. Gellir mynd at y safle ar hyd llwybr o Glen Mona. Bu cloddiadau pwysig yno ym 1999.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Carnedd o Oes Newydd y Cerrig yw Cashtal yn Ard, sy'n cynnwys pum siambr, deugain metr o hyd, sy'n ei gwneud yn un o'r henebion mwyaf o'r cyfnod yn Ynysoedd Prydain[1]. Mae'n dyddio o oddeutu -2000. Fel y carneddau eraill ar yr ynys, ei bwrpas oedd cynnig beddrod i benaethiaid Manaw a'u teuluoedd. Mae esgyrn dynol a chrochenwaith o Oes Newydd y Cerrig wedi'u darganfod yno[2].
Yn bensaernïol, gellir ei gymharu â safle East Bennan, ar Ynys Arran (Yr Alban).
Nodiadau a chyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cashtal yn Ard, The Megalithic Portal.
- ↑ (Saesneg) The Celtic Encyclopedia, Harry Mountain, Universal-Publishers.com, 1998, ISBN 1581128908.