Neidio i'r cynnwys

Carmen Sylva

Oddi ar Wicipedia
Carmen Sylva
FfugenwCarmen Sylva Edit this on Wikidata
Ganwyd29 Rhagfyr 1843 Edit this on Wikidata
Schloss Monrepos, Neuwied Edit this on Wikidata
Bu farw18 Chwefror 1916 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Bwcarést Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, cyfieithydd, nofelydd, dramodydd Edit this on Wikidata
SwyddConsort of Romania Edit this on Wikidata
TadHermann, 4ydd tywysog Wied Edit this on Wikidata
MamMarie o Nassau Edit this on Wikidata
PriodCarol I o Rwmania Edit this on Wikidata
PlantY dywysoges Maria o Rwmania Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Wied-Neuwied, Llinach Hohenzollern-Sigmaringen (Rwmania) Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Frenhines Maria Luisa, Urdd Brenhinol Victoria ac Albert, laureate of the Consistori del Gay Saber, Urdd Olga, Grand Cross of the Order of the Crown (Romania), Urdd Luise Edit this on Wikidata
llofnod

Brenhines Rwmania a gwraig y Brenin Carol I oedd Pauline Elisabeth Ottilie Luise o Wied (29 Rhagfyr 18432 Mawrth 1916), sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, cyfieithydd, nofelydd, dramodydd ac awdur storïau byrion. Fe'i hadwaenir yn helaeth wrth ei henw llenyddol Carmen Sylva.[1][2][3][4][5]

Fe'i ganed yn Schloss Monrepos, Neuwied, ger dinas Ludwigsburg. Roedd yn ferch i Hermann, tywysog Wied, a'i wraig y Dywysoges Marie o Nassau. Roedd Elisabeth yn ferch artistig iawn, ers oedd yn ifanc, ond roedd ei phlentyndod hefyd yn cynnwys seances ac ymweliadau â'r lloches leol ar gyfer pobl â salwch meddwl.

Yn un ar bymtheg oed, ystyriwyd Elisabeth yn briodferch bosibl i Albert Edward, etifedd gorsedd "Prydain", sef y bachgen a ddeuai'n y Brenin Edward VII yn ddiweddarach. Roedd ei fam, y Frenhines Victoria, yn ffafrio Elisabeth yn gryf fel darpar ferch-yng-nghyfraith.[6] Yn y diwedd, dewiswyd Alexandra o Ddenmarc ar gyfer Albert Edward.[7]

Derbyniwyd Elisabeth i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol 1890 ym Mangor, o dan yr enw Carmen Sylva. Treuliodd pump wythnos dros yr haf hwnnw yn Llandudno am gyfnod o adferiad, ar ôl argymhelliad gan Albert Edward. Ymwelodd â'r Eisteddfod yn ystod y cyfnod yma, a hi a gyflwynodd y Gadair y flwyddyn honno, i'r bardd Thomas Tudno Jones. Enwir tair stryd yn Llandudno er teyrnged iddi: Ffordd Carmen Sylva, Roumania Drive a Roumania Crescent. Tybir hefyd mai cyfieithiad o'i geiriau yw arwyddair Llandudno ('Hardd, Hafan, Hedd'), am iddi alw'r dref yn "a beautiful haven of peace". Urddwyd brenhines Rwmania i Orsedd y Beirdd unwaith yn rhagor ym 1925, pan cafodd y Frenhines Marie yr anrhydedd.[8]

Bu farw Elisabeth ym Mwcarést, ac fe'i claddwyd ym Mynachdy Curtea de Argeș.

Aelodaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Academi Gwyddoniaethau Rwsia ac Academi Rwmania am rai blynyddoedd. [9]

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Urdd y Frenhines Maria Luisa, Urdd Brenhinol Victoria ac Albert, laureate of the Consistori del Gay Saber (1883), Urdd Olga, Grand Cross of the Order of the Crown (Romania), Urdd Luise .


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Disgrifiwyd yn: https://www.bartleby.com/library/bios/index15.html.
  3. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 11 Medi 2018.
  4. Dyddiad geni: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 11 Medi 2018. "Carmen Sylva". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elisabeth Prinzessin von Wied". The Peerage. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elizabeth Pauline zu Wied". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Carmen Sylva". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Dyddiad marw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 11 Medi 2018. "Carmen Sylva". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. Pakula, t. 144.
  7. Hibbert, pp. 40-41.
  8. "Pan cafodd Brenhines Romania ei hurddo i'r Orsedd...", Cymru Fyw (BBC), 4 Awst 2025, https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/erthyglau/c89ekwpwdydo, adalwyd 4 Awst 2025
  9. Galwedigaeth: Discogs. dyddiad cyrchiad: 11 Medi 2018.