Cariadings

Oddi ar Wicipedia

Teip addurniadol yw Cariadings a grewyd gan Geraldine Banes (Wade, gynt) ar gyfer teulu o ffontiau Cleartype gan Microsoft. Bwriedir i'r ffont newydd gymryd lle Webdings fel y ffont addurniadol ar gyfer systemau Windows.[1] Yn ôl Microsoft, sefydlwyd y symbol ar "linellau syml, cyfesuredd a chyfeiriadedd at fyd natur... addurniadau teipograffig a ellir eu defnyddio fel marciau dŵr (watermarks) neu i addurno borderi".

Mae Geraldine yn enedigol o Ddoc Penfro, ond magwyd hi yn Nhyddewi. Roedd hi'n rheolwr prosiect ar y ffontiau Cleartype ac yn aml roedd hefyd yn gyfrifol am roi enwau i ffontiau. Penderfynodd Microsoft bod angen i bob ffont Cleartype ddechrau gyda'r llythyren 'C', ac felly rhoddodd enw Cymraeg iddyn nhw.

Roedd Geraldine, ar y cyd gyda John Hudson, yn gyfrifol am roi'r enw i'r ffont arall gan Microsoft: Sylfaen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. microsoft.com; adalwyd 26 Ionawr 2016