Capten William Rogers (Patagonia)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Un o arloeswyr y Wladfa ym Mhatagonia oedd William Rogers (28 Ebrill 18271 Ionawr 1909).

Ganwyd ym Mhen-bre, Sir Gaerfyrddin.[1] Cafodd ei wraig, Martha, ei geni yn Llanelli, 2 Ionawr 1827. Mwy na thebyg mai merch David ac Elinor Williams, High Street, Llanelli oedd Martha a chafodd ei bedyddio yn eglwys y plwyf 17 Ionawr 1827.

Ymunodd William â'r Llynges Frenhinol ac roedd yn un o'r morwyr a laniodd o longau rhyfel i weithio arfau yn yr amddiffynfeydd ar yr ucheldiroedd yn ystod Rhyfel y Crimea. Credwyd iddo fod wedi marw ar faes y gâd achos hwyliodd ei long am adre tra roedd yn y ffosydd yn amddiffyn. Dychwelodd adre yn hwyrach a dod o hyd i'w wraig mewn dillad gweddw. Er i hyn beri syndod a dryswch i'w wraig a'i berthnasau, cafodd groeso yn llawn llawenydd. Cafodd pedair medal am y rhan chwaraeodd ym mrwydrau Alma, Sebastopol ac Inkerman. Ar ôl hyn aeth i weithio ar longau masnach ac fe lwyddodd i ddringo i reng Capten.

Perswadiodd ei frawd iddo i ymfudo i Bennsylvania yn yr Unol Daleithiau gyda'i deulu yn 1862. Yno, yn 1874, clywodd y gweinidog Abraham Matthews, a oedd ar daith drwy'r Unol Daleithiau, yn rhoi darlith yn hyrwyddo ymfudiad i Batagonia. Perswadwyd llawer o'r Cymry yng Ngogledd America i ymfudo a phrynwyd llong o'r enw Electric Spark i gario'r ymfudwyr i Batagonia o dan gapteniaeth William Rogers. Roedd llawer ohonynt yn bobl cyfoethog ac fe lwythwyd y llong gyda chyflenwad o fwyd a diod am y siwrnau a dodrefn a pheiriannau amaethyddol. Canol nos ar 26 Mai drylliwyd y llong ar y bar yn Tutoya ar arfordir Brasil. Cafodd y teithwyr i gyd eu hachub a chariwyd 40 o'r bocsys yn llawn nwyddau i'r lan, ond bu rhaid gadael y peiriannau trwm ar ôl, gan gynnwys peiriant dyrnu David Roberts. Mewn amser cyrhaeddont Buenos Aires a chael lloches yng Nghartref yr Ymfudwyr. Yno roeddent pan gyrhaeddodd y gweinidog Abraham Matthews ac ymfudwyr eraill ar y llong Hipparchus. Llwyddont i deithio i Batagonia ar y llong Irene. Cafodd y newydd-ddyfodiaid groeso mawr ac mewn cyfarfod cyhoeddus ar 17 Hydref 1874, diolchwyd i William Rogers am arwain yr ymfudwyr ar ôl colli'r Electric Spark. Estynwyd gwahoddiad iddo i ddychwelyd gyda'i deulu i ymgartrefu yn y Wladfa. Dychwelodd i'r Unol Daleithiau a phrynwyd llong, y Lucerne, gyda'r bwriad o hwylio i Batagonia. Cyrhaeddodd William Rogers, ei deulu a 46 o ymfudwyr eraill yn ddiogel ym Mhatagonia.

Hwyliodd William Rogers o Chubut i'r Río Negro ar y llong Juan Dillon, i gario cynnyrch o'r Wladfa, a dychwelyd gyda nwyddau angenrheidiol i'r gwladychwyr. Bu hefyd yn hela morloi ar arfordiroedd y gogledd ac ynysoedd y de. Rhoddodd y gorau i hwylio pan yn 60 oed ar ôl erfyniadau ei deulu a'i ffrindiau. Yn 1905, pan yn 80 oed, dychwelodd i'r lle ganwyd a chafodd groeso cynnes gan y teulu a ffrindiau.

Bu farw Capten William Rogers 1 Ionawr 1909, yn 82 oed ac mae llong wedi ei cherfio ar ei garreg fedd yn y fynwent yn y Gaiman. Marwodd ei wraig Martha 13 Chwefror 1911, yn 83 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Yn ôl yr arsgrifen ar ei garreg fedd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]