Capten Tom Moore
Capten Tom Moore | |
---|---|
Ganwyd | 30 Ebrill 1920 Keighley |
Bu farw | 2 Chwefror 2021 o COVID-19 Bedford Hospital |
Man preswyl | Tipp's End, Marston Moretaine |
Dinasyddiaeth | Y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | milwr, codwr arian, general manager, tankman, rheolwr, dyngarwr, swyddog milwrol, entrepreneur, rasiwr motobeics |
Gwobr/au | 1939–45 Star, Burma Star, War Medal 1939–1945, Defence Medal, Pride of Britain Awards, Yorkshire Regiment Medal, Point of Light, Blue Peter badge, Marchog Faglor |
Gwefan | https://captaintom.org/ |
Roedd Sir Thomas Moore (30 Ebrill 1920 – 2 Chwefror 2021)[1], yn fwyaf adnabyddus fel "Capten Tom" yn arwr Seisnig. Gwasanaethodd fel swyddog byddin yn yr Ail Ryfel Byd. Yn 99 oed, cododd filiynau o bunnoedd i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Enillodd y Wobr Helen Rollason yn y seremoni Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC 2020.
Cafodd ei eni yn Keighley, Swydd Efrog, yn fab i'r adeiladwr Wilfred Moore a'i wraig, a oedd yn athrawes.[2]
Yn ystod y rhyfel, gwasanaethodd Tom yn India a Burma. Ar ôl gadael y fyddin, daeth yn rheolwr gyfarwyddwr cwmni. Pan ddaeth coronafirws i'r DU, penderfynodd godi arian i'r GIG. Gwnaeth recordiad o "You’ll Never Walk Alone" gyda Michael Ball.[3] Y sengl oedd rhif un yn siartiau cerddoriaeth y DU, gan ei wneud y person hynaf i ennill rhif un y DU. Capten Tom oedd y person hynaf i gyflawni rhif un yn y DU. Ym mis Gorffennaf 2020 cafodd ei urddo'n farchog gan Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig.
Bu farw Capten Tom o COVID-19, yn 100 oed.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Captain Sir Tom Moore: national hero dies, aged 100". News and Star (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Chwefror 2021.
- ↑ Murray, Jessica (15 Ebrill 2020). "War veteran, 99, raises £6m for NHS by walking lengths of back garden". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Ebrill 2020.
- ↑ "Captain Tom Moore launches You'll Never Walk Alone charity single with Michael Ball". ITV News (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Ebrill 2020.
- ↑ "Covid-19: Captain Sir Tom Moore dies with coronavirus" (yn Saesneg). BBC. 2 Chwefror 2021. Cyrchwyd 2 Chwefror 2021.