Capel y Morfa, Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Capel y Morfa, Aberystywth

Capel gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw Capel y Morfa. Fe'i lleolir ar Stryd Portland, Aberystwyth.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffurfiwyd Capel y Morfa yn 1989, wedi cyfnod hir o drafod, trwy uniad cynulleidfaoedd Salem a Seilo. Unwyd cynulleidfaoedd y Morfa a Chapel y Tabernacl (oedd ai mynediad ar Stryd Powell, Aberystwyth ond a ddifrodwyd gan dân yn 2002[1] ac sydd bellach y fflatiau) pan gaeodd y Tabernacl yn 2002. Sefydlwyd Ebeneser, Penparcau yn 1939 yn gangen o’r Tabernacl. Wedi cau’r Tabernacl daeth yn gangen o Gapel y Morfa.

Mae'r capel ei hun yn enw newydd ar y capel a alwyd yn Salem a ffurfiwyd wedi rhwyg o fewn Capel Seilo.

Adeilad[golygu | golygu cod y dudalen]

Capel y Morfa, Aberystwyth plac

Ffurfiwyd yr hen Gapel Salem ar Stryd Portland wedi rhwyg o fewn cynulleidfa Capel Seilo, Morfa Mawr. Wedi cyfnod yn cwrdd yn yr 'Assembly Rooms' ar Maes Lowri ger yr Hen Goleg, agorwyd Capel Salem yn 1895. Cost yr adeilad oedd £2,600. Er mwyn tanlinellu'r gwahaniaeth rhwng y ddwy gapel, fe adeiladwyd Salem newydd yn arddull Gothig - oedd yn arddull anghyfarwydd i gynulleidfa Fethostiaid Calfinaidd Cymreig ond mewn gwrthgyferbyniad ag arddull Baroque Seilo.

Dylunwyd y capel gan y pensaer Thomas Morgan o Aberystwyth. Adeiladwyd y Capel yn 1894/5 gan David Lloyd, Trefechan.[2]

Trwy gyd-ddigwyddiad, hen leoliad Capel Seilo (yr eglwys yr ymwahanodd Salem oddi wrtho, yw safle Canolfan y Morlan bellach.

Heddiw[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Gweinidog cyfredol (2018) yw Y Parch. Eifion Roberts. Gweinidog gyntaf y capel unedig oedd Y Parch. Pryderi Llwyd Jones.

Trefn y Sul[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 10.00am - Oedfa Capel y Morfa
  • 10.20-11.00am - Ysgol Sul - bydd y plant yn gadael yr oedfa tua 10.20
  • 11.00am - Ysgol Sul i oedolion
  • 2.15pm - Oedfa yn Ebeneser, Penparcau
  • 6.00pm - Oedfa Capel y Morfa

Mae'r holl weithgaredd yn y Gymraeg.

Canolfan y Morlan[golygu | golygu cod y dudalen]

Datblygwyd Canolfan y Morlan fel canolfan ffydd a diwylliant ar safle yr hen Gapel Seilo oedd ar Morfa Mawr. Lleolir y Morlan oddeutu 300m i'r gogledd ddwyrain o adeilad Capel y Morfa.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. http://www.addoldaicymru.org/search/nprn/7157
  2. http://www.welshchapels.org/search/nprn/7154