Capel y Morfa, Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Capel y Morfa
Mathcapel, eglwys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAberystwyth Edit this on Wikidata
SirCeredigion, Aberystwyth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.41674°N 4.08215°W Edit this on Wikidata
Cod postSY23 2HL Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/EnwadMethodistiaid Calfinaidd Edit this on Wikidata

Capel gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw Capel y Morfa. Fe'i lleolir ar Stryd Portland, Aberystwyth.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd Capel y Morfa yn 1989, wedi cyfnod hir o drafod, trwy uniad cynulleidfaoedd Salem a Seilo. Unwyd cynulleidfaoedd y Morfa a Chapel y Tabernacl (oedd â'i mynediad ar Stryd Powell, Aberystwyth, ond a ddifrodwyd gan dân yn 2002[1] ac sydd bellach yn fflatiau) pan gaeodd y Tabernacl yn 2002. Sefydlwyd Ebeneser, Penparcau, yn 1939 yn gangen o'r Tabernacl. Wedi cau'r Tabernacl daeth yn gangen o Gapel y Morfa.

Mae'r capel ei hun yn enw newydd ar y capel a alwyd yn Salem a ffurfiwyd wedi rhwyg o fewn Capel Seilo.

Adeilad[golygu | golygu cod]

Plac ar Gapel y Morfa

Ffurfiwyd yr hen Gapel Salem ar Stryd Portland wedi rhwyg o fewn cynulleidfa Capel Seilo, Morfa Mawr. Wedi cyfnod yn cwrdd yn yr 'Assembly Rooms' ar Maes Lowri ger yr Hen Goleg, agorwyd Capel Salem yn 1895. Cost yr adeilad oedd £2,600. Er mwyn tanlinellu'r gwahaniaeth rhwng y ddwy gapel, fe adeiladwyd Salem newydd yn arddull Gothig, oedd yn arddull anghyfarwydd i gynulleidfa Fethodistiaid Calfinaidd Cymreig, ond mewn gwrthgyferbyniad ag arddull Baróc Seilo.

Dyluniwyd y capel gan y pensaer Thomas Morgan o Aberystwyth. Adeiladwyd y Capel yn 1894–1895 gan David Lloyd, Trefechan.[2]

Trwy gyd-ddigwyddiad, hen leoliad Capel Seilo (yr eglwys yr ymwahanodd Salem oddi wrtho) yw safle Canolfan y Morlan bellach.

Heddiw[golygu | golygu cod]

Y Gweinidog cyfredol (2018) yw y Parch. Eifion Roberts. Gweinidog gyntaf y capel unedig oedd y Parch. Pryderi Llwyd Jones.

Trefn y Sul[golygu | golygu cod]

  • 10.00am – Oedfa Capel y Morfa
  • 10.20–11.00am – Ysgol Sul; bydd y plant yn gadael yr oedfa tua 10.20
  • 11.00am – Ysgol Sul i oedolion
  • 2.15pm – Oedfa yn Ebeneser, Penparcau
  • 6.00pm – Oedfa Capel y Morfa

Mae'r holl weithgaredd yn y Gymraeg.

Canolfan y Morlan[golygu | golygu cod]

Canolfan y Morlan

Datblygwyd Canolfan y Morlan fel canolfan ffydd a diwylliant ar safle yr hen Gapel Seilo oedd ar Morfa Mawr. Lleolir y Morlan oddeutu 300m i'r gogledd ddwyrain o adeilad Capel y Morfa.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Owen, D. Huw, Capeli Cymru (Talybont: Y Lolfa, 2005), tt. 26–7

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]