Capel Smyrna, Llangefni
Gwedd
Math | capel |
---|---|
Enwyd ar ôl | Smyrna |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llangefni |
Sir | Cymuned Llangefni |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 16.8 metr |
Cyfesurynnau | 53.254049°N 4.311936°W |
Cod post | LL77 7ET |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Mae Capel Smyrna wedi ei leoli yn nhref Llangefni ar Ynys Môn.
Hanes
[golygu | golygu cod]Talwyd £250 i adeiladu'r capel yn 1844.[1] Ail-adeiladwyd y capel o gwmpas 1870. Ac unwaith eto yn 1903. Mae’r capel yn parhau i fod ar agor. Mae'r capel presennol, dyddiedig 1903, wedi'i adeiladu yn yr arddull Glasurol. Erbyn hyn mae Capel Smyrna wedi'i rhestru yn radd 2 fel capel sydd wedi'i gadw'n dda o ddechrau'r ugeinfed ganrif.
Tu mewn
[golygu | golygu cod]Mae'r brif fynedfa'n arwain i mewn i gyntedd bach teils gyda drysau ochr yn arwain i mewn i'r capel y tu hwnt. Mae gan y capel 3 rheng o seddau cribinio, y safle canolog gyda rhannwr canolog. Mae'r set fawr yn y pen pellaf wedi ei godi o un step.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Jones, Geraint (2007). Capeli Môn. Gwasg Carreg Gwalch. t. 91.