Capel Saron, Amlwch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Capel Saron, Bodgadfa, Amlwch.

Adeiladwyd Capel Saron yn 1844. Mae'r capel oddeutu 1.2 milltir i'r de-orllewin o dref Amlwch yn Ynys Môn.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafwyd oedfeydd mewn tŷ yn yr ardal cyn adeiladu'r capel ac roedd hyn yn mynd yn ôl dwy flynedd ynghynt.

Caeodd y capel yn 1997. Cartref yw'r capel erbyn hyn (sydd wedi'i baentio yn wyn) ond mae ei wreiddiau fel addoldy yn hollol amlwg.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Jones, Geraint IL (2007). Capeli Môn. Llanrwst, Dyffryn Conwy: Carreg Gwalch. p. 43.