Capel Noddfa, Bae Trearddur
Math | eglwys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Bae Trearddur |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.277572°N 4.61415°W |
Mae Capel Noddfa wedi ei leoli gyferbyn ag Eglwys Sant Ffraid ym Mae Trearddur, Ynys Môn.
Hanes[golygu | golygu cod]
Capel bychan yw Noddfa. Roedd ysgoldy yn rhan o Gapel Ebeneser, Kingsland, Caergybi ac adeiladwyd hi yn 1909. 'Capel Gwyn' oedd enw'r capel yn y dechrau ond corfforwyd y capel yn annibynnol o Ebeneser yn y flwyddyn 1921.[1] Sefydlwyd 'Eglwys Unedig Tywyn Capel' ar y cyd hefo'r Bedyddwyr yn 1966.
Mae'r capel yn agored o hyd.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Jones, Geraint I. L. (2007). Capeli Môn. Gwasg Carreg Gwalch. t. 44. ISBN 1-84527-136-X.