Canser y Fron

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Canser y Fron
Breast DCIS histopathology (1).jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol Clefyd Edit this on Wikidata
Math Canser thorasig, clefyd y fron edit this on wikidata
Arbenigedd Oncoleg edit this on wikidata
Dynodwyr
Thesawrws NCI C9335, c2910 edit this on wikidata
Freebase /M/0j8hd edit this on wikidata
OMIM 114480, 600048, 605365 edit this on wikidata
MeSH D001943 edit this on wikidata
UMLS CUI C0006142, c0153555, c1458155 edit this on wikidata
Quora Breast-cancer edit this on wikidata
Arall
Commons page Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae canser y fron yn datblygu o feinwe’r fron.[1] Gall arwyddion o fodolaeth canser y fron gynnwys lwmp yn y fron, newid yn siâp y fron, crychu yn y croen, hylif yn dod o’r deth, neu groen coch, cennog.[2] II rai sydd â’r clefyd wedi lledaenu cryn dipyn, gellir cael poen yn yr asgwrn, chwyddiant yn y nodau lymff, bod yn fyr o wynt neu groen melyn.[3]

Mae’r ffactorau sy’n pery risg o ddatblygu canser y fron yn cynnwys bod yn fenywaidd, gordew, diffyg ymarfer corff, yfed alcohol, therapi adfer hormonau yn ystod y menopos, ymbelydredd ïoneiddio, cychwyn misglwyf yn ifanc, cael plant yn hwyrach neu beidio cael plant o gwbl, bod yn hŷn a hanes teuluol. [4] Mae 5-10% o achosion oherwydd genynnau wedi eu hetifeddu gan rieni, gan gynnwys BRCA1 a BRCA2 ymhlith eraill. Mae canser y fron yn datblygu’n gan amlaf yng nghelloedd leinin y dwythellau llaeth a’r llabed sy’n cyflenwi’r dwythellau â llaeth.  Mae canser sy’n datblygu o’r dwythellau yn cael eu galw’n carsinoma dwythellol, tra gelwir y rhai sy’n datblygu yn y llabed yn garsinoma’r llabed. Ceir hefyd 18 is-fath o ganser y fron. Mae rhai math o ganser, fel carsinoma dwythellol in situ, yn datblygu o friwiau cyn-ymledol. Ceir diagnosis o ganser y fron drwy fiopsi o’r lwmp o dan sylw. Pan gaiff y diagnosis ei wneud, gwneir rhagor o brofion i weld os yw’r canser wedi lledaenu ymhellach na’r fron, a pha driniaethau y gallai’r canser ymateb iddo.

Mae pwyso a mesur budd yn erbyn niwed wrth gynnal profion sgrinio canser y fron yn ddadleuol. Dywedodd adolygiad Cochrane 2013 ei bod yn aneglur os yw sgrinio mamograffeg yn gwneud mwy o les neu niwed.[5] Cafwyd darganfyddiad mewn adolygiad gan dasglu gwasanaethau ataliol yr UDA yn 2009 bod budd i’r rhai oedd yn rhwng 40 a 70 oed,[6] ac mae’r mudiad yn argymell sgrinio bob dwy flynedd i ferched rhwng 50 a 74 oed.[7] Gellir defnyddio’r meddyginiaethau tamoxifen a raloxifene i geisio atal canser y fron i’r rheiny sydd â risg uchel o’i ddatblygu.  Mae codi’r ddwy fron hefyd yn ddull o atal ei ddatblygiad mewn merched sydd â risg uchel. II’r rheiny sydd wedi cael derbyn cadarnhad bod canser ganddynt, gellir defnyddio sawl triniaeth, gan gynnwys llawdriniaeth, therapi ymbelydredd, cemotherapi, therapi hormonau a therapi targedig. Mae’r math o lawdriniaeth yn eang iawn, o lawdriniaeth i geisio cadw’r fron i fastectomi.[8][9] Gall adlunio’r bronnau ddigwydd yn ystod y llawdriniaeth neu yn y dyfodol. II’r rhai lle mae’r canser wedi ymledu i rannau eraill y corf, mae triniaeth yn anelu at wella ansawdd bywyd a chyfforddusrwydd.

Mae effaith canser y fron yn ddibynnol ar y math o ganser, ehangder y clefyd, ac oed y person. Mae niferoedd y rhai sy’n goroesi yn uchel yn y byd sydd wedi datblygu,[10] mae rhwng 80% a 90% o’r rheiny yn Lloegr neu’r UDA yn byw am o leiaf 5 mlynedd.[11][12] IYn y gwledydd datblygedig mae’r niferoedd sy’n goroesi yn salach. Canser y fron yw’r canser mwyaf blaenllaw mewn merched ar draws y byd, ac mae’n cyfrif am 25% o’r holl achosion.[13] Yn 2012 cafwyd 1.68 miliwn o achosion a 522, 000 o farwolaethau. Mae’n fwy cyffredin yn y gwledydd sydd wedi datblygu, ac mae’n 100 gwaith mwy cyffredin mewn merched na dynion.[14]

Arwyddion a symptomau[golygu | golygu cod y dudalen]

Canser y fron yn dangos nadwd gwrthdroi, lwmp a bannwl chroen.

Yn nodweddiadol, y symptom cyntaf ac amlycaf o ganser y fron yw lwmp sy’n teimlo’n wahanol i weddill feinwe’r fron. Mae dros 80% o achosion canser y fron yn cael eu darganfod pan mae’r ddynes yn dod o hyd i lwmp. Mae’r canser cynharaf yn cael eu darganfod gan famogram. Gall lympiau yn y nodau lymff sydd wedi eu lleoli yn y gesail hefyd ddynodi canser y fron.


Yn ychwanegol i lwmp, gall arwyddion o ganser y fron gynnwys meinwe yn fwy trwchus na meinwe arall y fron, un fron yn fwy neu’n is na’r llall, teth yn newid lleoliad neu siâp neu’n troi at i mewn, y croen yn rhychu neu dimpling, brechu ar y deth neu o’i amgylch, arllwysiad o’r deth/tethi, poen parhaol mewn rhan o’r fron neu gesail, a chwyddiant o dan y gesail neu o gwmpas pont yr ysgwydd. Mae poen, (mastodynia) yn annibynadwy fel dull o gadarnhau presenoldeb canser neu beidio, ond gall ddynodi problemau eraill yn ymwneud ag iechyd y frest.


Mae canser llidiol y fron yn fath penodol o ganser y fron sy’n achosi cryn sialens wrth gael diagnosis. Gall symptomau fod yn debyg i lid y fron a gall gynnwys cosi, poen, chwyddiant, y deth yn troi at i mewn, cynhesrwydd a chochni dros y fron, ynghyd â theimlad fel croen oren i’r croen a elwir yn peau d’orange. Gan nad yw canser llidiol y fron yn amlygu ei hun â lwmp gellir can oedi cyn cael diagnosis.

Symptom cymhleth arall o ganser y fron yw clefyd Paget y fron. Mae’r syndrom hwn yn ymddangos fel newidiadau yn debyg i ecsema ar y croen, er enghraifft cochni, newid lliw neu groen y deth yn plicio. Fel mae clefyd Paget yn y fron yn datblygu, gall symptomau gynnwys merwindod, cosi, mwy o sensitifrwydd, llosgi a phoen. Gall arllwysiad ddod o’r deth hefyd. Mae oddeutu hanner y merched sydd wedi cael diagnosis fod ganddynt glefyd Paget y fron gyda lwmp yn eu bron.

Mewn achosion prin, gall beth sy’n ymddangos fel fibroadenoma (lwmp caled nad yw’n ganser a ellir ei symud) fod yn diwmor ffylodes. Mae tiwmor ffylodes yn cael eu creu tu mewn i’r stroma (meinwe cysylltiol) y fron ac yn cynnwys meinwe chwarennol yn ogystal â chysylltiol. Nid yw tiwmor ffylodes yn cael eu graddio yn ffurf arferol; maent yn cael eu dosbarthu yn sgil eu hedrychiad o dan ficrosgop yn un ai anfalaen, ar y ffin neu falaen.[15]

Weithiau bydd canser y fron yn ymddangos fel clefyd metastatig, hynny yw canser sydd wedi ymledu o’r organ wreiddiol. Mae’r symptomau a gaiff eu hachosi gan ganser y fron sy’n metastatig yn dibynnu ar leoliad y metasteiddio. Lleoliadau cyffredin lle mae canser yn metasteiddio yw yn yr asgwrn, iau, ysgyfaint ac ymennydd.[16] Weithiau gall colli pwysau heb reswm, neu wres neu oerfel fod yn arwydd o ganser y fron. Gall poenau yn yr esgyrn neu gymalau fod yn arwydd o ganser y fron metastatig, yn ogystal â chlefyd melyn a symptomau niwrolegol. Mae’r symptomau yma yn cael eu galw’n amhenodol, mae hyn yn golygu y gallant fod yn arwydd o sawl salwch arall.[17]

Nid yw’r rhan fwyaf o symptomau afiechydon y fron, gan gynnwys y rhan fwyaf o lympiau, yn arwyddocaol o ganser y fron. Er enghraifft, mae llai na 20% o lympiau â chanser,[18] ac mai afiechydon diniwed fel mastitis a fibroadenoma y fron sy’n rhesymau mwy cyffredin dros symptomau afiechydon y fron. Er hynny, dylai’r claf a’i meddygon gymryd symptom newydd o ddifrif oherwydd bod posibilrwydd o ganser isorweddol fod yn fron ar unrhyw oed bron.[19]

Ffactorau sy’n achosi risg[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir rhannu’r ffactorau sy’n achosi risg yn ddau gategori:

  • Risg a ellir ei newid (y pethau a phobl eu newid eu hunain, fel yfed alcohol,) a
  • Risg sefydlog (y pethau na ellir eu newid, fel oed a rhyw)

Y prif risgiau ar gyfer canser y fron yw bod yn fenywaidd ac yn hŷn. [20] Mae’r risgiau posibl arall yn cynnwys geneteg, [21] diffyg geni plant neu fwydo o’r fron, [22] lefelau uwch o rai hormonau penodol,[23][24] patrymau dietegol penodol, a gordewdra. Mae astudiaethau diweddar yn nodi llygredd golau yn gallu bod yn factor sy’n achosi risg i ddatblygu canser.[25]

Ffordd o fyw[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae’n ymddangos fod tybaco yn cynyddu’r risg o ddatblygu canser y fron, mae’r risg yn uwch po fwyaf yr ysmygwyd a chynharaf y dechreuwyd ysmygu. I ysmygwyr tymor hir mae’r risk yn cynyddu 35% i 50%. Mae diffyg ymarfer corff yn gysylltiedig â 10% o’r achosion.[26] Mae eistedd am gyfnodau hir yn gysylltiedig â chyfradd marwolaeth uwch o ganser y fron. Nid yw’r risg yn cael ei negyddu gan ymarfer corff rheolaidd, ond mae’n gostwng.[27]

Mae cysylltiad rhwng y defnydd o ddulliau atal cenhedlu hormonaidd a datblygiad canser y fron cyn y menopos, [28][29] ond mae’n ddadleuol os yw defnyddio pilsen atal cenhedlu yn achosi canser y fron cyn menopos. Os oes cysylltiad, mae’r effaith absoliwt yn fychan.[30][31] Yn ychwanegol, nid yw’r glir os yw’r cysylltiad yn bodoli gyda’r atal cenhedlu hormonaidd fwy newydd. Yn rheiny gyda mwtaniad yn y genyn sy’n dangos rhagduedd canser y fron BRCA1 a BRCA2, neu sydd â hanes teuluol o ganser y fron, nid yw’r defnydd o’r bilsen atal cenhedlu modern i’w weld yn effeithio’r risg o ddatblygu canser y fron.[32][33]

Nid yw’r cysylltiad rhwng bwydo o’r fron a chanser y fron wedi cael ei gadarnhau’n glir; mae rhai astudiaethau wedi dangos bod cefnogaeth i gysylltiad tra nad yw eraill. [34] Yn yr 1980au, roedd damcaniaeth erthylu-canser y fron yn dweud bod erthylu trwy orfodaeth yn cynyddu’r risg o ddatblygu canser y fron. [35] Roedd y ddamcaniaeth hon yn destun ymchwiliad gwyddonol eang, a daethant i’r casgliad nad oes gan golli plentyn nag erthylu cysylltiad â chynnydd yn y risg o ddatblygu canser y fron.[36]

Cysylltir sawl factor dietegol â’r risg o ddatblygu canser y fron. Mae’r ffactorau dietegol a ellir gynyddu’r risg yn cynnwys diet sy’n uchel mewn braster, yfed alcohol, a lefel colestoral uchel oherwydd gôr dewdra. [37] [38] [39][40] Dietary iodine deficiency may also play a role.[41] Gall diffyg iodine dietegol hefyd greu effaith. Mae’r dystiolaeth am ffibr yn aneglur. Mewn adolygiad 2015 darganfuwyd mai canlyniadau cymysg oedd astudiaethau a oedd yn ceisio cysylltu bwyta ffibr â chanser y fron. Yn 2016 gwelwyd cyswllt petrus rhwng ychydig o ffibr yn ystod llencyndod.[42]

Mae ffactorau eraill sy’n peri risg yn cynnwys ymbelydredd a gwaith shift.[43] Cystylltir saw sawl cemegyn hefyd, gan gynnwys biffenylau polyclorinedig, hydrocarbonau aromatig polysyclig, toddyddion organig. Er mai isel yw dos yr ymbelydredd mewn mamogram, fe amcangyfrir y buasai sgrinio blynyddol o 40 oed i 80 oed yn achosi 225 achos o ganser y fron angheuol ym mhob miliwn o ferched a sgriniwyd. [44] [45]

Geneteg[golygu | golygu cod y dudalen]

Gall rhagduedd geneteg chwarae rhan fechan yn y rhan fwyaf o achosion. [46] Er hynny, yn gyffredinol credir mai geneteg sy’n bennaf gyfrifol am 5-10% o achosion.[47] Mae merched sydd a’u mamau wedi cal diagnosis cyn iddynt fod yn 50 â chynnydd risg o 1.7, a rheiny a’u mamau wedi cael diagnosis ar ôl 50 oed â chynnydd risg o 1.4.[48] . I’r rheiny sydd â dim, neu un neu ddau o aelodau’r teulu wedi eu heffeithio, mae’r risg o ddatblygu canser y fron cyn 80 oed yn 7.8%, 13.3% a 21.1%, gyda marwolaeth yn dilyn oherwydd yr afiechyd yn 2.3%, 4.2%, a 7.6% yn dilyn y drefn uchod.[49] I’r rheiny sydd ag aelod agosaf o’r teulu gyda’r afiechyd mae’r risg o ddatblygu canser y fron rhwng 40 a 50 oed yn ddwbl ffigwr y cyhoedd y boblogaeth yn gyffredinol.[50]

Mewn llai 5% o achosion, mae geneteg yn chwarae rhan fwy allweddol wrth greu hereditary breast-ovarian cancer syndrom. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n cario mwtaniad geneteg BRCA1 a BRCA2. Mae’r mwtaniad hyn yn cyfri am 90% o’r holl ddylanwad geneteg gyda risg o ganser y fron yn 60-80% yn y rhai a effeithiwyd. Mae’r mwtaniad eraill yn cynnwys syndrom Li-Fraumeni, PTEN (syndrome Cowden), a STK11 (syndrome Peutz-Jeghers), CHEK2, ATM, BRIP1, a PALB2. Yn 2012, dywedodd ymchwilwyr bod pedwar math o geneteg benodol i ganser y fron, ac ym mhob math bod hallmark newidiadau yn arwain at sawl canser.[51]


Diagnosis[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae’r rhan fwyaf o fathau canser y fron yn hawdd i’w gadarnhau drwy ddadansoddi sampl o dan ficrosgop - neu fiopsi - o’r rhan o’r fron sydd wedi ei heffeithio. Hefyd, mae mathau o ganser y fron sydd angen eu dadansoddi mewn labordai arbenigol.

Mae’r ddau ddull mwyaf cyffredin o sgrinio, archwiliad corfforol o’r bronnau gan ddarparwr gofal iechyd a mamogram, yn gallu rhoi bras syniad am debygolrwydd mai canser yw lwmp. Gall hefyd ddarganfod nam eraill, fel syst syml.[52] Pan mae’r archwiliadau hyn yn amhendant, gall darparwr gofal iechyd dynnu sampl o’r hylif yn y lwmp er mwyn cael archwiliad dan ficrosgop (gelwir y dull yma’n allsugniad nodwydd fain neu allsugniad nodwydd fain a seitoleg - FNAC) i gynorthwyo gyda chadarnhau'r diagnosis. Gall allsugniad nodwydd fain gael ei gynnal yn swyddfa’r darparwr gofal iechyd neu mewn clinig yn defnyddio anesthetig lleol os oes angen. Os oes hylif clir yn y lwmp mae’n annhebygol iawn iddo fod yn ganser, ond gall hylif gwaedlyd gael ei yrru i’w archwilio o dan ficrosgop am gelloedd canser. Gyda’i gilydd, gellir defnyddio archwiliad corfforol o’r bronnau, mamogram, a FNAC i gael diagnosis â chryn gywirdeb.

Opsiynau eraill ar gyfer biopsy yw biopsi craidd neu biopsi drwy allsugniad, dull yw hwn lle tynnir darn o’r lwmp yn y fron; neu biopsi trwy dorri, [53] lle tynnir y lwmp cyfan. Yn aml, mae archwiliad corfforol gan ddarparwr gofal iechyd, mamogram, a phrofion pellach a fuasai o bosib yn cael eu cynnal o dan amgylchiadau arbennig, (fel cynnal delweddau drwy uwchsain neu MRI) yn ddigon i sicrhau biopsi trwy dorri fel y dull pendant o roi diagnosis a’r dull gyntaf o driniaeth.

Dulliau atal[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffordd o fyw[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae’n bosib y gall merched leihau’r risg o ddatblygu canser y fron drwy gadw pwysau iach, yfed llai o alcohol, bod yn gorfforol egnïol a bwydo’u plant o’r fron.  Gall y newidiadau yma atal 38% o achosion canser y fron yn yr UDA, 42% yn DU, 27% ym Mrasil ac 20% yn China. Mae buddiannau ymarfer cymedrol fel cerdded yn sydyn i’w weld ym mhob carfan oed gan gynnwys merched cyn menopos. [54] Mae lefel uchel o weithgarwch corfforol yn lleihau'r risg o ganser y fron tua 14%.[55] Gall strategaethau sy’n annog gweithgaredd corfforol yn rheolaidd a gostwng gordewdra fod â buddiannau eraill, fel gostwng clefyd cardiofasgwlaidd a chlefyd siwgr.

Mae bwyta llawer o ffrwythau sitrws hefyd wedi ei gysylltu â gostyngiad o 10% mewn canser y fron.[56]

Mae’n ymddangos bod marine omega-3 polyunsaturated fatty acid yn lleihau’r risg. Gall bwyta llawer o fwydydd soia hefyd ostwng y risg.[57]

Llawdriniaeth ragflaenol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gall tynnu’r ddwy fron cyn i unrhyw ganser gael ei ddarganfod, neu cyn i unrhyw lwmp drwgdybus neu unrhyw friw arall ymddangos (dull a elwir yn mastectomi proffylactig y ddwy ochr) gael ei ystyried gan bobl sydd â mwtaniad BRAC1 a BRCA2, sydd yn gysylltiedig â risg uwch o ddatblygu canser y fron yn y pendraw.[58][59] Nid yw’r dystiolaeth yn ddigon cryf i gefnogi’r dull i neb ond y rhai sydd â’r risg uchaf.[60] Mae profion BRCA yn cael ei argymell i’r rheiny sydd â’r risg uchaf oherwydd hanes teuluol ar ôl cynghori geneteg. Nid yw’r cael ei argymell yn gyffredinol.[61] Mae hyn oherwydd bod sawl ffurf o newid yn y genynnau BRCA, ac mae hyn yn ymestyn o amryffurfedd diniwed i batrymau geneteg beryglus. Mae effaith y rhan fwyaf o’r newidiadau a ellir eu hadnabod yn y genynnau yn ansicr. Mae profi mewn rhywun sydd â risg cyffredin yn debygol o roi un o’r canlyniadau amhenodol, diwerth hyn. Mae’n aneglur os yw tynnu’r ail fron i’r rhai sydd â chanser yn un yn fuddiol.

Meddyginiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae selective estrogen receptor modulators (fel tamoxifen) yn lleihau risg canser y fron ond yn cynyddu risg datblygu thromboembolism a chanser endometriaidd. Ni does unrhyw newid cyffredinol yn y risg o farwolaeth.[62][63] Felly nid ydynt yn cael eu hargymell i atal canser y fron i ferched sydd â risg cyffredin ond gellir ei argymell i’r rheiny sydd â risg uchel.[64] Mae budd o ostwng canser y fron yn parhau am beth bynnag bum mlynedd ar ôl gorffen cwrs o driniaeth gyda’r meddyginiaethau hyn.[65]

sgrinio[golygu | golygu cod y dudalen]

Uned sgrinio canser y fron symudol yn Seland Newydd

Mae sgrinio ar gyfer canser y fron yn cyfeirio at ferched, sydd fel arall yn iach, mewn ymgais i geisio cael diagnosis yn gynt oherwydd y tyb fod darganfyddiad cynnar yn gwella canlyniadau. Mae sawl prawf sgrinio wedi cael eu defnyddio gan gynnwys archwiliad clinigol a hunan archwiliad o’r fron, mamograffi, sgrinio geneteg, uwchsain and sganiwr mri.

Mae archwiliad clinigol neu hunan archwiliad o’r fron yn golygu teimlo’r fron am lympiau neu unrhyw nam arall. Darparwr gofal iechyd sy’n cynnal archwiliad clinigol tra mae hunan archwiliad yn cael ei gynnal gan y person ei hun.[66] Nid yw tystiolaeth yn cefnogi effeithiolrwydd y naill archwiliad na’r llall, oherwydd erbyn i lwmp fod digon mawr iddo gael ei ddarganfod mae’n debyg iddo fod yn tyfu ers sawl blwyddyn ac felly cyn bo hir yn ddigon mawr i gael ei ddarganfod heb archwiliad. [67][68] Mae sgrinio mamograffeg ar gyfer darganfod canser y fron yn defnyddio pelydr-x i archwilio’r fron am unrhyw fàs neu lympiau annodweddiadol. Yn ystod y sgrinio mae’r fron yn cael ei chywasgu ac mae technegydd yn tynnu llun o sawl ongl. Mae mamogram cyffredinol yn tynnu llun y fron i gyd, tra mae mammogram diagnostig yn ffocysu ar lwmp penodol neu ardal sy’n peri pryder.[69]

Mae sawl corff cenedlaethol yn argymell sgrinio ar gyfer canser y fron. I’r fenyw gyffredin, mae’r Tasglu Gwasanaethau Ataliol yr UDA yn awgrymu mamograffi bob dwy flynedd i ferched rhwng 50 a 74 oed, mae Cyngor Ewrop yn argymell mamogramau i ferched rhwng 50 a 69 oed bob 2 flynedd,[70] , ac yng Nghanada mae sgrinio yn cael ei argymell rhwng 50 a 74 oed bob 2 i 3 blynedd. Mae adroddiadau’r tasgluoedd hyn yn nodi, yn ychwanegol i lawdriniaeth ddiangen a phoen meddwl, mae risgiau cynnal mamogramau yn amlach yn cynnwys risg bach ond arwyddocaol yn y risg o ganser y fron oherwydd ymbelydredd.[71]

Mae cydweithrediad Cochrane (2013) yn nodi nad yw’r dystiolaeth o’r safon orau yn dangos gostyngiad mewn canser penodol, na gostyngiad mewn cyfradd marwolaethau drwy sgrinio mamogram. Pan ychwanegir treialon llai trwyadl tuag at y dadansoddiad mae lleihad o 0.05% yn ffigyrau marwolaeth oherwydd cancer y fron (lleihad o 1 mewn bob 2000 marwolaeth oherwydd canser y fron dros 10 mlynedd neu ostyngiad cymharol o 15% oherwydd ganser y fron). Canlyniad sgrinio dros 10 mlynedd yw bod cynnydd o 30% mewn canrannau gor-ddiagnosis a gor-driniaeth (3 i 4 mewn bob 1000) a chaiff mwy na hanner o leiaf un prawf camarweiniol.[72] Canlyniad hyn yw’r farn nad yw’n glir os yw sgrinio canser y fron yn gwneud mwy o dda neu ddrwg. Meddai Cochrane, oherwydd gwelliannau diweddar yn nhriniaeth canser y fron, a’r risg o dderbyn cadarnhad anghywir sy’n arwain at driniaeth ddiangen, ‘nid yw felly’n ymddangos iddo fod yn fuddiol i fynychu profion sgrinio’ i unrhyw oed. [73] Ni wyddid os yw MRI fel dull sgrinio yn achosi rhagor o niwed neu fuddiannau with ei gymharu â mamograffi gyffredin.[74]


Mae canser y fron gan amlaf yn cael ei drin gyda llawdriniaeth, a all wedyn gael ei ddilyn gyda chemotherapi neu therapi ymbelydredd, neu’r ddau. Dull aml disgybledig sy’n fwyaf dymunol. Mae cancer sy’n hormone-receptor positive yn aml yn cael eu trin â hormone-blocking therapy dros gyfnod o sawl blwyddyn. Gall antibodïau monoclonal, neu driniaethau immune-modulating arall gael eu defnyddio mewn rhai achosion o ganser metastatig a chamau eraill o ganser y fron.

Llawdriniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Y gist ar ôl mastectomi y fron ar y dde

Mae llawdriniaeth yn golygu tynnu’r tiwmor yn gorfforol, yn debygol gydag ychydig o’r meinwe sydd o’i amgylch. Gall un neu ragor o’r nodau lymff gael biopsi yn ystod y llawdriniaeth; yn amlach mae samplu’r nod lymff yn cael ei gynnal drwy fiopsi nodau lymff sentinel.

Mae llawdriniaeth gyffredin yn cynnwys:

  •   Mastectomi- Tynnu bron gyfan
  •   Quadranectomi - Tynnu chwarter y fron
  •   Lympectcomi – Tynnu darn bach o’r fron

Unwaith mae’r tiwmor wedi cael ei dynnu, os yw’r claf yn dymuno, gall llawdriniaeth adlunio bron sy’n fath o lawdriniaeth blastig, gael ei performed i wella edrychiad esthetig yr ardal. Neu, mae merched yn defnyddio bron brosthetig i edrych fel bron o dan ddillad, neu’n dewis brest fflat. Gellir defnyddio teth brosthetig unrhyw dro yn dilyn y mastectomi.

Prognosis[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae prognosis yn cael ei roi fel arfer ar y tebygolrwydd o oresgyn heb ddilyniad (PFS) neu oresgyn hen afiechyd (DFS). Mae’r rhagfynegiadau hyn wedi eu seilio ar gleifion eraill â chanser y fron â dosbarthiad tebyg. Amcangyfrif yw prognosis, oherwydd bydd cleifion a’r un fath o ddosbarthiad yn goroesi am amser gwahanol, ac nid yw dosbarthiad bob tro yn hollol union. Mae goroesiad yn cael ei calculate drwy ddefnyddio’r nifer o fisoedd (neu flynyddoedd) ar gyfartaledd mae 50% o gleifion yn goroesi, neu’r cyfartaledd o’r nifer o gleifion sy’n dal yn fyw ar ôl 1, 5, 15 ac 20 mlynedd. Mae prognosis yn bwysig ar gyfer penderfyniadau ynglŷn â thriniaeth achos mae cleifion sydd â phrognosis da yn cael cynnig triniaethau sy’n llai goresgynnol, fel lympectomi ac ymbelydredd neu therapi hormon, tra mae cleifion â phrognosis sâl yn cael cynnig triniaethau mwy gormesol, fel mastectomi mwy eang ac un neu ragor o gyffuriau cemotherapi.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Breast Cancer". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 June 2014. http://www.cancer.gov/cancertopics/types/breast. Adalwyd 29 June 2014.
  2. "Breast Cancer Treatment (PDQ®)". 23 May 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 July 2014. http://www.cancer.gov/cancertopics/pdq/treatment/breast/Patient/page1/AllPages. Adalwyd 29 June 2014.
  3. Saunders, Christobel; Jassal, Sunil (2009). Breast cancer (1. ed.). Oxford: Oxford University Press. p. Chapter 13. ISBN 978-0-19-955869-8. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 October 2015.  Check date values in: |archive-date= (help)
  4. World Cancer Report 2014. World Health Organization. 2014. pp. Chapter 5.2. ISBN 92-832-0429-8. 
  5. "Screening for breast cancer with mammography.". The Cochrane database of systematic reviews 6: CD001877. 4 June 2013. doi:10.1002/14651858.CD001877.pub5. PMID 23737396.
  6. Nelson, HD; Tyne, K; Naik, A; Bougatsos, C; Chan, B; Nygren, P; Humphrey, L (November 2009). Screening for Breast Cancer: Systematic Evidence Review Update for the US Preventive Services Task Force [Internet].. PMID 20722173.
  7. Siu, Albert L. (12 January 2016). "Screening for Breast Cancer: U.S. Preventive Services Task Force Recommendation Statement". Annals of Internal Medicine 164: 279–96. doi:10.7326/M15-2886. PMID 26757170.
  8. American College of Surgeons (September 2013), "Five Things Physicians and Patients Should Question", Choosing Wisely: an initiative of the ABIM Foundation (American College of Surgeons), archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 October 2013, http://www.choosingwisely.org/doctor-patient-lists/american-college-of-surgeons/, adalwyd 2 January 2013
  9. "Breast Cancer Treatment (PDQ®)". 26 June 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 July 2014. http://www.cancer.gov/cancertopics/pdq/treatment/breast/healthprofessional/page1/AllPages. Adalwyd 29 June 2014.
  10. "World Cancer Report". International Agency for Research on Cancer. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 July 2011. http://www.iarc.fr/en/publications/pdfs-online/wcr/2008/wcr_2008.pdf. Adalwyd 26 February 2011.
  11. "Cancer Survival in England: Patients Diagnosed 2007–2011 and Followed up to 2012". 29 October 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 November 2014. http://www.ons.gov.uk/ons/dcp171778_333318.pdf. Adalwyd 29 June 2014.
  12. "SEER Stat Fact Sheets: Breast Cancer". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 July 2014. http://seer.cancer.gov/statfacts/html/breast.html. Adalwyd 18 June 2014.
  13. World Cancer Report 2014. World Health Organization. 2014. pp. Chapter 1.1. ISBN 92-832-0429-8. 
  14. "Male Breast Cancer Treatment". National Cancer Institute. 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 July 2014. http://www.cancer.gov/cancertopics/pdq/treatment/malebreast/HealthProfessional. Adalwyd 29 June 2014.
  15. answers.com. "Oncology Encyclopedia: Cystosarcoma Phyllodes". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 September 2010. http://www.answers.com/topic/phyllodes-tumor.
  16. Lacroix M (December 2006). "Significance, detection and markers of disseminated breast cancer cells". Endocrine-Related Cancer (Bioscientifica) 13 (4): 1033–67. doi:10.1677/ERC-06-0001. PMID 17158753.
  17. National Cancer Institute (1 September 2004). "Metastatic Cancer: Questions and Answers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 August 2008. http://www.cancer.gov/cancertopics/factsheet/Sites-Types/metastatic.
  18. Interpreting Signs and Symptoms. Lippincott Williams & Wilkins. 2007. pp. 99–. ISBN 978-1-58255-668-0. 
  19. Merck Manual of Diagnosis and Therapy (February 2003). "Breast Disorders: Overview of Breast Disorders". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 October 2011. http://www.merckmanuals.com/home/womens_health_issues/breast_disorders/overview_of_breast_disorders.html.
  20. "Breast cancer prevention.". Cancer treatment and research 141: 149–64. 2008. doi:10.1007/978-0-387-73161-2_10. PMID 18274088.
  21. "Am I at risk?". Breast Cancer Care. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 October 2013. http://www.breastcancercare.org.uk/breast-cancer-information/breast-awareness/am-i-risk/risk.
  22. Collaborative Group on Hormonal Factors in Breast Cancer (August 2002). "Breast cancer and breastfeeding: collaborative reanalysis of individual data from 47 epidemiological studies in 30 countries, including 50302 women with breast cancer and 96973 women without the disease.". Lancet 360 (9328): 187–95. doi:10.1016/S0140-6736(02)09454-0. PMID 12133652.
  23. "Estrogen carcinogenesis in breast cancer". New Engl J Med 354 (3): 270–82. 2006. doi:10.1056/NEJMra050776. PMID 16421368.
  24. "Hormone Therapy and Menopause". National Research Center for Women & Families. February 2009. http://www.center4research.org/2010/03/hormone-therapy-and-menopause/.
  25. Light Pollution as new risk factor for human Breast and Prostate Cancers- Haim, Abraham; Portnov, Biris P., 2013, Nodyn:ISBN
  26. "Effect of physical inactivity on major non-communicable diseases worldwide: an analysis of burden of disease and life expectancy". The Lancet 380 (9838): 219–29. 1 July 2012. doi:10.1016/S0140-6736(12)61031-9. PMC 3645500. PMID 22818936. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3645500.
  27. "Sedentary Time and Its Association With Risk for Disease Incidence, Mortality, and Hospitalization in Adults: A Systematic Review and Meta-analysis". Annals of Internal Medicine 162 (2): 123–32. 2015. doi:10.7326/M14-1651. PMID 25599350.
  28. Hayes,, James; Ricahrdson, Ann; Frampton, Chris (15 November 2013). "Population attributable risks for modifiable lifestyle factors and breast cancer in New Zealand women". IMJ 43 (11): 1198–1204. doi:10.1111/imj.12256. PMID 23910051.
  29. "Oral contraceptive use as a risk factor for premenopausal breast cancer: a meta-analysis.". Mayo Clinic proceedings. Mayo Clinic 81 (10): 1290–302. Oct 2006. doi:10.4065/81.10.1290. PMID 17036554.
  30. "[The risk of breast cervical, endometrial and ovarian cancer in oral contraceptive users].". Medicinski pregled 63 (9–10): 657–61. Sep 2010. doi:10.2298/mpns1010657v. PMID 21446095.
  31. "Oral contraceptive use and risk of breast cancer.". Mayo Clinic proceedings. Mayo Clinic 83 (1): 86–90; quiz 90–1. January 2008. doi:10.4065/83.1.86. PMID 18174010. http://www.mayoclinicproceedings.org/article/S0025-6196(11)61122-1/fulltext.
  32. "Oral contraceptive use and breast or ovarian cancer risk in BRCA1/2 carriers: a meta-analysis.". European journal of cancer (Oxford, England : 1990) 46 (12): 2275–84. August 2010. doi:10.1016/j.ejca.2010.04.018. PMID 20537530.
  33. "Oral contraceptives and family history of breast cancer.". Contraception 80 (4): 372–80. October 2009. doi:10.1016/j.contraception.2009.04.010. PMID 19751860.
  34. "A systematic review of the association between breastfeeding and breast cancer.". Journal of Women's Health 17 (10): 1635–45. December 2008. doi:10.1089/jwh.2008.0917. PMID 19049358. https://dx.doi.org/10.1089/jwh.2008.0917.
  35. "Susceptibility of the mammary gland to carcinogenesis. II. Pregnancy interruption as a risk factor in tumor incidence". Am J Pathol 100 (2): 505–506. 1980. PMC 1903536. PMID 6773421. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1903536. "In contrast, abortion is associated with increased risk of carcinomas of the breast. The explanation for these epidemiologic findings is not known, but the parallelism between the DMBA-induced rat mammary carcinoma model and the human situation is striking. ... Abortion would interrupt this process, leaving in the gland undifferentiated structures like those observed in the rat mammary gland, which could render the gland again susceptible to carcinogenesis."
  36. "Breast cancer and abortion: collaborative reanalysis of data from 53 epidemiological studies, including 83?000 women with breast cancer from 16 countries.". Lancet 363 (9414): 1007–16. 27 March 2004. doi:10.1016/S0140-6736(04)15835-2. PMID 15051280.
  37. "Dietary fat reduction and breast cancer outcome: results from the Women's Intervention Nutrition Study (WINS).". The American Journal of Clinical Nutrition 86 (3): s878–81. September 2007. PMID 18265482.
  38. "The burden of cancer attributable to alcohol drinking". International Journal of Cancer 119 (4): 884–7. August 2006. doi:10.1002/ijc.21903. PMID 16557583.
  39. BBC report Weight link to breast cancer risk Error in webarchive template: Check |url= value. Empty.
  40. Kaiser J (29 November 2013). "Cancer. Cholesterol forges link between obesity and breast cancer.". Science 342 (6162): 1028. doi:10.1126/science.342.6162.1028. PMID 24288308.
  41. "Is iodine a gatekeeper of the integrity of the mammary gland?". Journal of Mammary Gland Biology and Neoplasia 10 (2): 189–96. April 2005. doi:10.1007/s10911-005-5401-5. PMID 16025225.
  42. Aubrey, Allison (1 February 2016). "A Diet High In Fiber May Help Protect Against Breast Cancer". NPR. http://www.npr.org/sections/thesalt/2016/02/01/464854395/a-diet-high-in-fiber-may-help-protect-against-breast-cancer.
  43. "Shift work and chronic disease: the epidemiological evidence.". Occupational Medicine 61 (2): 78–89. March 2011. doi:10.1093/occmed/kqr001. PMC 3045028. PMID 21355031. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3045028.
  44. "Environmental pollutants, diet, physical activity, body size, and breast cancer: where do we stand in research to identify opportunities for prevention?". Cancer 109 (12 Suppl): 2627–34. June 2007. doi:10.1002/cncr.22656. PMID 17503444.
  45. Hendrick RE (October 2010). "Radiation doses and cancer risks from breast imaging studies.". Radiology 257 (1): 246–53. doi:10.1148/radiol.10100570. PMID 20736332.
  46. Boris Pasche (2010). Cancer Genetics (Cancer Treatment and Research). Berlin: Springer. pp. 19–20. ISBN 1-4419-6032-5. 
  47. "Translational advances regarding hereditary breast cancer syndromes". Journal of surgical oncology 105 (5): 444–51. 1 April 2012. doi:10.1002/jso.21856. PMID 22441895.
  48. Colditz, Graham A.; Kaphingst, Kimberly A.; Hankinson, Susan E.; Rosner, Bernard (19 February 2012). "Family history and risk of breast cancer: nurses' health study". Breast Cancer Research and Treatment 133 (3): 1097–1104. doi:10.1007/s10549-012-1985-9. ISSN 0167-6806. PMC 3387322. PMID 22350789. https://link.springer.com/article/10.1007/s10549-012-1985-9.
  49. "Familial breast cancer: collaborative reanalysis of individual data from 52 epidemiological studies including 58,209 women with breast cancer and 101,986 women without the disease.". Lancet 358 (9291): 1389–99. 27 October 2001. doi:10.1016/S0140-6736(01)06524-2. PMID 11705483.
  50. "Risk factors for breast cancer for women aged 40 to 49 years: a systematic review and meta-analysis.". Annals of Internal Medicine 156 (9): 635–48. 1 May 2012. doi:10.7326/0003-4819-156-9-201205010-00006. PMC 3561467. PMID 22547473. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3561467.
  51. Kolata, Gina (23 September 2012). "Genetic Study Finds 4 Distinct Variations of Breast Cancer". The New York Times. https://www.nytimes.com/2012/09/24/health/study-finds-variations-of-breast-cancer.html.
  52. "Clinical breast examination: practical recommendations for optimizing performance and reporting". CA: A Cancer Journal for Clinicians 54 (6): 327–344. 2004. doi:10.3322/canjclin.54.6.327. PMID 15537576.
  53. "Diagnostic value of vacuum-assisted breast biopsy for breast carcinoma: a meta-analysis and systematic review.". Breast cancer research and treatment 120 (2): 469–79. 2010. doi:10.1007/s10549-010-0750-1. PMID 20130983.
  54. "Physical activity and risk of breast cancer among postmenopausal women". Arch. Intern. Med. 170 (19): 1758–64. October 2010. doi:10.1001/archinternmed.2010.363. PMC 3142573. PMID 20975025. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3142573.
  55. Kyu, Hmwe H; Bachman, Victoria F; Alexander, Lily T; Mumford, John Everett; Afshin, Ashkan; Estep, Kara; Veerman, J Lennert; Delwiche, Kristen et al. (9 August 2016). "Physical activity and risk of breast cancer, colon cancer, diabetes, ischemic heart disease, and ischemic stroke events: systematic review and dose-response meta-analysis for the Global Burden of Disease Study 2013". BMJ 354: i3857. doi:10.1136/bmj.i3857. PMC 4979358. PMID 27510511. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4979358.
  56. Song, Jung-Kook; Bae, Jong-Myon (1 March 2013). "Citrus fruit intake and breast cancer risk: a quantitative systematic review". Journal of Breast Cancer 16 (1): 72–76. doi:10.4048/jbc.2013.16.1.72. ISSN 1738-6756. PMC 3625773. PMID 23593085. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3625773.
  57. Wu, AH; Yu, MC; Tseng, CC; Pike, MC (15 January 2008). "Epidemiology of soy exposures and breast cancer risk.". British Journal of Cancer 98 (1): 9–14. doi:10.1038/sj.bjc.6604145. PMC 2359677. PMID 18182974. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2359677.
  58. "Efficacy of bilateral prophylactic mastectomy in women with a family history of breast cancer". N Engl J Med 340 (2): 77–84. 1999. doi:10.1056/NEJM199901143400201. PMID 9887158.
  59. "Breast cancer after prophylactic bilateral mastectomy in women with BRCA1 and BRCA2 mutations". N Engl J Med 345 (3): 159–164. 2001. doi:10.1056/NEJM200107193450301. PMID 11463009.
  60. Lostumbo, L; Carbine, NE; Wallace, J (10 November 2010). "Prophylactic mastectomy for the prevention of breast cancer.". The Cochrane database of systematic reviews (11): CD002748. doi:10.1002/14651858.CD002748.pub3. PMID 21069671.
  61. "Risk Assessment, Genetic Counseling, and Genetic Testing for BRCA-Related Cancer in Women: U.S. Preventive Services Task Force Recommendation Statement". Annals of Internal Medicine 160: 271–281. 24 December 2013. doi:10.7326/M13-2747.
  62. "Use of medications to reduce risk for primary breast cancer: a systematic review for the U.S. Preventive Services Task Force.". Annals of Internal Medicine 158 (8): 604–14. 16 April 2013. doi:10.7326/0003-4819-158-8-201304160-00005. PMID 23588749.
  63. "Selective oestrogen receptor modulators in prevention of breast cancer: an updated meta-analysis of individual participant data.". Lancet 381 (9880): 1827–34. 25 May 2013. doi:10.1016/S0140-6736(13)60140-3. PMC 3671272. PMID 23639488. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3671272.
  64. Moyer VA (24 September 2013). "Medications for Risk Reduction of Primary Breast Cancer in Women: U.S. Preventive Services Task Force Recommendation Statement.". Annals of Internal Medicine 159: 698–708. doi:10.7326/0003-4819-159-10-201311190-00718. PMID 24061412.
  65. "Selective oestrogen receptor modulators in prevention of breast cancer: an updated meta-analysis of individual participant data". The Lancet 381 (9880): 1827–34. 31 March 2013. doi:10.1016/S0140-6736(13)60140-3. PMC 3671272. PMID 23639488. http://www.thelancet.com/journals/lancet/article/PIIS0140-6736(13)60140-3/abstract.
  66. "Screening". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 November 2015. https://www.cdc.gov/cancer/breast/basic_info/screening.htm.
  67. "Screening for Breast Cancer". December 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 January 2013. http://www.uspreventiveservicestaskforce.org/uspstf/uspsbrca.htm.
  68. "Cochrane Database of Systematic Reviews". Cochrane Database Syst Rev (2): CD003373. 2003. doi:10.1002/14651858.CD003373. PMID 12804462.
  69. "Breast Cancer and Mammograms". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 December 2012. http://www.webmd.com/breast-cancer/guide/mammograms.
  70. "Mammography Screening: Evidence, History and Current Practice in Germany and Other European Countries.". Breast care (Basel, Switzerland) 6 (2): 104–109. 2011. doi:10.1159/000327493. PMC 3104900. PMID 21673820. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3104900.
  71. "Breast Cancer: Screening". Archifwyd o y gwreiddiol ar 16 June 2013. https://web.archive.org/web/20130616040709/http://www.ahrq.gov/clinic/3rduspstf/breastcancer/brcanrr.htm.
  72. "Quantifying the Benefits and Harms of Screening Mammography.". JAMA internal medicine 174 (3): 448–54. 30 December 2013. doi:10.1001/jamainternmed.2013.13635. PMID 24380095.
  73. "Screening for breast cancer with mammography". Cochrane Nordic. 27 August 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 October 2015. http://nordic.cochrane.org/screening-breast-cancer-mammography.
  74. "Screening for breast cancer: U.S. Preventive Services Task Force recommendation statement.". Annals of Internal Medicine 151 (10): 716–26, W–236. 17 November 2009. doi:10.7326/0003-4819-151-10-200911170-00008. PMID 19920272. http://www.uspreventiveservicestaskforce.org/uspstf/uspsbrca.htm.