Canol Swydd Bedford
| Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr |
|---|---|
| Prifddinas | Chicksands |
| Poblogaeth | 274,000 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Bedford (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 715.6654 km² |
| Yn ffinio gyda | Luton |
| Cyfesurynnau | 52.0263°N 0.4906°W |
| Cod SYG | E06000056 |
| GB-CBF | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Central Bedfordshire Council |
![]() | |
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Bedford, De-orllewin Lloegr, yw Canol Swydd Bedford (Saesneg: Central Bedfordshire).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 716 km², gyda 288,648 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio â Bwrdeistref Bedford i'r gogledd a Bwrdeistref Luton i'r de-ddwyrain, yn ogystal â siroedd Swydd Buckingham i'r gorllewin, a Swydd Gaergrawnt a Swydd Hertford i'r dwyrain.

Ffurfiwyd yr ardal fel awdurdod unedol ar 1 Ebrill 2009 pan unwyd y ddwy ardal an-fetropolitan Canol Swydd Bedford a De Swydd Bedford, a oedd gynt dan weinyddiaeth yr hen sir an-fetropolitan Swydd Bedford.
Rhennir yr awdurdod yn 79 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys ym mhentref Chicksands. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Ampthill, Arlesey, Biggleswade, Dunstable, Flitwick, Houghton Regis, Leighton Buzzard, Linslade, Potton, Sandy, Shefford, Stotfold a Woburn
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 28 Hydref 2020
