Camlas Grand Union

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
CamlasGrandUnion01LB.jpg

Mae Camlas Grand Union yn cysylltu Llundain a Birmingham.[1] Mae’n 137 milltir o hyd ac mae 166 o lociau.

Mae’r gamlas yn cysylltu ag Afon Tafwys yn Brentford, ac mae dros 50 o lociau rhwng y Tafwys a copa’r Bryniau Chiltern. Mae’r gamlas yn mynd trwy Stoke Bruerne, lle mae Amgueddfa’r Camlesi, a Braunston. Mae twneli ger Braunston a Blisworth. Mae’r gamlas yn mynd trwy Leamington Spa a Warwick ar ei ffordd i Birmingham. Mae 21 o lociau yn Hatton sydd erbyn hyn yn cael llysenw ‘Stairway to Heaven’. Ailadeiladwyd y lociau gyda choncrit gan 1000 o dynion dros gyfnod o 2 flynedd.][2]

Cangen Paddington a Chamlas Regent[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae’n mynd heibio Parc Regent Sw Llundain a Camden cyn ymuno agAfon Tafwys ym Masn Limehouse.][3]

Cangen Caerlyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae’n gadael y brif gamlas wrth Gyffordd Norton, i’r de o Braunston, yn dringo ac wedyn syrthio cyn ymuno ag Afon Soar yn ymyl Loughborough, ac ar ôl 10 milltir arall yn ymuno ag Afon Trent ger Kegworth. Mae 2 dwnel ger Crick a Husband’s Bosworth chyfres o lociau yn Watford, a Foxton, ac mae uchafbwynt y gangen rhyngddynt. Disodlwyd 10 o lociau Foxton gyda plân ar oleddf, yn codi cychod 75 troedfedd, ym 1900, ond wedi problemau, ail agorwyd y lociau ym 1908.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Transportation template.png Eginyn erthygl sydd uchod am gludiant. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.