Camesgoriad
Enghraifft o'r canlynol | clefyd, symptom neu arwydd, complications of pregnancy |
---|---|
Math | beichiogrwydd gyda chanlyniad erthyl, reproductive system symptom |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Camesgoriad yw marwolaeth embryo neu ffetws cyn iddo allu goroesi'n annibynnol.[1] Mae rhai yn defnyddio toriad o 20 wythnos o feichiogrwydd, ac ar ôl hynny gelwir marwolaeth y ffetws yn Marw-enedigaeth. Symptom mwyaf cyffredin camesgoriad yw gwaedu o'r wain gyda, neu heb, poen. Gellir ystyried camesgoriad mynych hefyd yn fath o anffrwythlondeb.
Gall tristwch, pryder ac euogrwydd ddigwydd ar ôl cam-esgor.[2][3]
Ymhlith y ffactorau risg ar gyfer cam-esgor mae bod yn rhiant hŷn, camesgoriad blaenorol, dod i gysylltiad â mwg tybaco, gordewdra, diabetes, problemau thyroid, a defnyddio cyffuriau neu alcohol. Mae tua 80% o gamesgoriadau yn digwydd yn ystod 12 wythnos gyntaf beichiogrwydd.[4]
Iechyd Meddwl
[golygu | golygu cod]I rai pobl, gall camesgoriad fod yn rhan o’r hyn sy’n achosi problem iechyd meddwl – neu gwneud problem sydd eisoes yn bodoli yn waeth. Efallai y cewch ddiagnosis (fel anhwylder straen wedi trawma) neu brofi symptomau sy’n gwneud bywyd yn anodd am amser hir.
Weithiau gall trawma eich colled achosi meddyliau ymwthiol, ôl-fflachiadau neu hunllefau. Weithiau, beth sy’n digwydd wedyn sy’n cyfrannu at broblemau iechyd meddwl. Mae llawer o bobl yn profi cyfuniad o’r pethau hyn.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Miscarriage". nhs.uk (yn Saesneg). 2018-03-06. Cyrchwyd 2022-03-05.
- ↑ 2.0 2.1 "Camesgoriad". meddwl.org. 2021-10-01. Cyrchwyd 2022-03-05.
- ↑ "What are the symptoms of pregnancy loss (before 20 weeks of pregnancy)?". NICHD (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 Mawrth 2022.
- ↑ Obstetrics, The Johns Hopkins University School of Medicine Department of Gynecology and; Hurt, K. Joseph; Guile, Matthew W.; Bienstock, Jessica L.; Fox, Harold E.; Wallach, Edward E. (2012-03-28). The Johns Hopkins Manual of Gynecology and Obstetrics (yn Saesneg). Lippincott Williams & Wilkins. ISBN 978-1-4511-4801-5.