Calonnau Cymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Elusen iechyd Gymreig yw Calonnau Cymru a sefydlwyd yn 2013 gan Sharon Owen. Enw'r elusen yn Saesneg yw Welsh Hearts. Sefydlwyd yr elusen er mwyn arbed bywydau pobl sydd yn dioddef o drawiad neu ataliad ar y galon mewn mannau cyhoeddus ac heb fod mewn ysbyty.[1]

Nôd[golygu | golygu cod y dudalen]

Pecyn Diffibriliad ar gael yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
Darparu peiriant diffibrilwyr am ddim, cyfleus mewn mannau cyhoeddus ar draws Nghymru
Darparu hyfforddiant diffibriliwr a CPR am ddim i'r cyhoedd yng Nghymru
Sgrinio calonnau Cymru ar gyfer cyflyrau'r galon a allai fel arall fynd heb eu canfod
Sicrhau bod arian a godir yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio a'i ddosbarthu yng Nghymru ar brosiectau penodol sy'n ymwneud â'r galon

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd Calonna Cymru yn 2013 gan Sharon Owen, i helpu i achub bywydau pob sydd yn dioddef o anhwylderau neu trawiad ar y galon. Ysbrydolwyd Sharon i sefydlu'r elusen oherwydd yn dilyn archwiliad rheolaidd gyda meddyg teulu yn 11 oed, dywedwyd wrthi ei bod yn dioddef o nam ar y galon ("murmur calon").[2]

Mae pencadlys yr elusen yn Llandaf, Caerdydd.

Amcan[golygu | golygu cod y dudalen]

Noda wefan Calonnau Cymru bod pob eiliad yn cyfrif pan fydd person yn dioddef trawiad neu fethiant y galon. Mae 8,000 o arest cardaidd sydyn (sudden cardiac arrests) yn digwydd y tu allan i ysbytai Cymru bob blwyddyn a dim ond cyfradd oroesi o 3% sydd. Gall teclyn diffibriliad ailgychwyn y galon yn ystod ataliad y galon, ac achub bywydau. Pan gaiff ei ddefnyddio, gall y gyfradd oroesi gynyddu i 50%, ond mae ymateb cyflym yn hanfodol. I'r diben yma mae Calonna Cymru yn anelu i ddarparu pecyn diffibliwr i bob rhan o Gymru gan gynnwys swyddfeydd, canolfannau siopa a hyd yn oed meysydd pêl-droed.[3]

Yn ogystal â prynu a darpadu offer ADP Diffibriliad mae'r mudiad hefyd yn hyfforddi unioglion ar sut i ddelio a gweithredu'r peiriant os bydd person yn dioddef o trawiad ar y galon neu fethiant y calon. Hyd at 2019 roedd Calonnau Cymru wedi hyffordd 52,797 person i ddefnyddio'r offer a lleoli 1,513 teclyn diffibriliad.[4] a gorsafoedd trên.[5]

Ymgyrchoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Bydd yr elusen yn codi arian er mwyn prynu peiriant diffibliwr ac i hyfforddi unigolion. Mae'nt yn codi arian drwy ddigwyddiadau noddi megis dringo Pen-y-fan, tê parti dorfol a rhoddion unigol.[6]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Calonnau Cymru
yn Wiciadur.