Cadair gefn ffyn Gymreig

Oddi ar Wicipedia

Math o gadair bren a wneid yng Nghymru ers yr Oesoedd Canol yw'r gadair gefn ffyn Gymreig. Gellir ei hystyried yn ffurf ar gadair Windsor. Mae'n nodweddiadol o ddodrefn cyntefig y werin Gymreig.

Mae'r traddodiad o wneud cadeiriau cefn ffyn yn dyddio'n ôl i'r 13g, ac mae sawl enghraifft o'r 17g yn goroesi hyd heddiw. Cawsant eu creu gan grefftwyr y pentref, megis y saer coed, y gof, neu'r saer olwynion, a'u gwneud o goed derwen, onnen neu lwyfen gan amlaf.

Ceir amryw o siapiau i gadeiriau cefn ffyn, ond y nodwedd sy'n gyffredin iddynt yw'r crib o ffyn tenau sydd yn ffurfio'r cefn. Mae gan nifer o'r hen gadeiriau fraich gam a wneid o ddarn o goed sydd wedi tyfu felly. Câi'r fraich ei dal yn ei lle gan ffyn a osodir mewn creuau yn y sedd. Fel arfer câi'r coesau eu cerfio yn hytrach na'u turnio, a'u gosod ar ogwydd i roi golwg neilltuol i'r gadair.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • John Brown, Welsh Stick Chairs (1999).