CILIP
![]() | |
| Enghraifft o: | professional society, cyhoeddwr mynediad agored, cymdeithas llyfrgelloedd |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1 Ebrill 2002 |
| Yn cynnwys | Affiliate of the Chartered Institute of Library and Information Professionals, Member of the Chartered Institute of Library and Information Professionals, Fellow of the Chartered Institute of Library and Information Professionals |
| Prif weithredwr | Nick Poole, Louis Coiffait-Gunn |
| Rhagflaenydd | Gymdeithas Llyfrgelloedd |
| Aelod o'r canlynol | International Federation of Library Associations and Institutions |
| Gweithwyr | 49, 52, 48, 41, 43, 44 |
| Isgwmni/au | Library and Information Research Group, International Library and Information Group, CILIP Rare Books and Special Collections Group |
| Ffurf gyfreithiol | royal charter company |
| Rhanbarth | Llundain |
| Gwefan | https://www.cilip.org.uk/ |
| Dynodwyr | |

Mae CILIP (Chartered Institute of Library and Information Professionals) yn gorff proffesiynol ar gyfer llyfrgellwyr, arbenigwyr gwybodaeth a rheolwyr gwybodaeth yn y Deyrnas Unedig . Mae gan CILIP cangen yng Nghymru o'r enw CILIP Cymru. Mae CILIP Cymru yn datgan bod darpariaeth llyfrgell a gwybodaeth o ansawdd uchel yn ofyniad sylfaenol ar gyfer cymdeithas wybodus, ddemocrataidd, a dwyieithog yng Nghymru a thrwy ei haelodau mae'n ceisio gwneud darpariaeth o'r fath ar gael i bawb.
Mae CILIP yn yr Alban yn sefydliad annibynnol sy'n gweithredu yn yr Alban ar ran CILIP.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ffurfiwyd CILIP yn 2002 trwy uno'r Gymdeithas Llyfrgelloedd (wedi'i dalfyrru fel LA neu weithiau LAUK) - a sefydlwyd yn 1877 o ganlyniad i Gynhadledd Ryngwladol gyntaf Llyfrgellwyr [1] a dyfarnwyd Siarter Frenhinol ym 1898 [2] - a'r Institute of Information Scientists, a sefydlwyd yn 1958. Amcangyfrifwyd bod aelodaeth ar uno oddeutu 23,000. Sheila Corrall oedd Llywydd cyntaf CILIP.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Munford, W. A. A History of the Library Association, 1877-1977, p. 3. London: Library Association, 1977.
- ↑ Munford, p. 56; Royal Charter 1898, amended 1986 and 2002 Archifwyd 2019-06-03 yn y Peiriant Wayback
- ↑ "Rallying call to profession as CILIP launched". Information World Review 179: 1. 2002.
