Bwrdeistref Reading

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bwrdeistref Reading
Math awdurdod unedol, bwrdeisdref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddol Berkshire
Prifddinas Reading Edit this on Wikidata
Poblogaeth 163,203 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Berkshire
(Sir seremonïol)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Arwynebedd 40.3979 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 51.4542°N 0.9731°W Edit this on Wikidata
Cod SYG E06000038 Edit this on Wikidata
GB-RDG Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaethol Cyngor Bwrdeistref Reading Edit this on Wikidata

Awdurdod unedol yn sir seremonïol Berkshire, De-ddwyrain Lloegr, yw Bwrdeistref Reading.

Mae gan yr ardal arwynebedd o 40.4 km², gyda 163,203 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio ar Orllewin Berkshire i'r gorllewin, Bwrdeistref Wokingham i'r dwyrain, a Swydd Rydychen i'r gogledd.

Bwrdeistref Reading yn Berkshire

Ffurfiwyd y fwrdeistref ar 1 Ebrill 1974 fel ardal an-fetropolitan o dan reolaeth yr hen sir an-fetropolitan Berkshire. Pan ddiddymwyd y cyngor sir ar 1 Ebrill 1998, daeth y fwrdeistref yn awdurdod unedol.

Mae'r fwrdeistref wedi'i chanoli ar dref Reading. Fodd bynnag, mae maestrefi y dref yn ymestyn i awdurdodau cyfagos Gorllewin Berkshire a Bwrdeistref Wokingham.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. City Population; adalwyd 13 Ebrill 2020
EnglandBerkshire.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Berkshire. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato