Bwrcini

Oddi ar Wicipedia
Bwrcini
Mathswimsuit, hijab Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2004 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Merch mewn bwrcini (burqini)
Merched o Bacistan yn gwisgo'r byrca.

Math o wisg nofio i fenyw Islamaidd ydy byrcini neu fwrcini (ieithoedd eraill: burqini neu burkini) sy'n air cyfansawdd a fathwyd yn ddiweddar drwy gyfuno dau air: 'byrca' sef gwisg o Bacistan a bicini. Fe'i cynlluniwyd yn wreiddiol yn Awstralia gan Aheda Zanetti.[1]

Cynlluniwyd y wisg yn bwrpasol i guddio'r rhan fwyaf o'r corff, yn unol â thrddodiadau Islamaidd; mae'r wyneb, y traed a'r dwylo, fodd bynnag yn noeth. Mae'n eitha tebyg i wisg nofio rwber, ond fod iddi gwcwll (neu 'gwfl') y gellir ei godi. Mae'n wisg ysgafn, yn bwrpasol er mwyn i'r gwisgwr fedru nofio.[2] Cofrestrwyd y geiriau burqini a burkini gan Ahiida, sef cwmni Zanetti, ond fel y gair 'Hoover' daeth y gair i olygu gwisgoedd nofio tebyg - a wnaed gan gwmniau eraill hefyd.[3]

Ymhlith y mathau eraill o wisgoedd nofio Islamaidd y mae'r veilkini a gwisgoedd y brand MyCozzie.[4] Bu Zanetti'n feirniadol iawn o wisgoedd nofio mycozzie gan iddi gael ei gwneud allan o lycra, ac felly'n beryglus yn ei thyb hi. Gwadodd y cwmni hynny.[5]

Cynnen ynghylch y bwrcini[golygu | golygu cod]

Yn 2014 roedd rhai pyllau nofio ym Moroco wedi gwahardd y bwrcini, gan fynnu mai "rhesymau iechyd a diogelwch" oedd wrth wraidd eu penderfyniad. Achosodd hyn gryn dipyn o ddadlau gwleidyddol, drwy'r byd.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The surprising Australian origin story of the burkini", Sydney Morning Herald, 19 Awst 2016. Adalwyd 21 Awst 2016.
  2. Taylor, Rob (2007-01-17). "Not so teenie burqini brings beach shift". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-30. Cyrchwyd 2011-03-02.
  3. Adam Taylor (17 Awst 2006). "The surprising Australian origin story of the 'burkini'". Washington Post.
  4. "Filling void in modest swimwear". Cyrchwyd 2009-09-04.
  5. Chandab, Taghred (2009-08-30). "Itsy bitsy teeny weeny burqini design battle". The Sydney Morning Herald. Cyrchwyd 2009-09-04.
  6. "No Burkinis! Morocco hotels ban 'halal' suit". Al Arabiya News. 26 Awst 2014.